Buddion
Budd-daliadau
Gall budd-daliadau fod yn gymorth gwirioneddol i bobl, ac mae’r adran hon yn edrych ar y gwahanol fudd-daliadau sydd ar gael a pha rai allai fod yn addas i chi.
Mae yna lawer o newidiadau yn digwydd ar hyn o bryd, felly darllenwch y wybodaeth yn ofalus gan fod hawlio budd-daliadau yn gallu bod braidd yn ddryslyd.
Er enghraifft, mae rhai budd-daliadau newydd eisoes wedi cael eu cyflwyno, mae rhai eraill sydd heb eu cyflwyno eto, ac mae rhai eraill a fydd yn aros yr un fath.
Mae’n eithaf dryslyd, ac mae yna gyfrifiannell budd-daliadau y gallwch ei ddefnyddio i wirio pa fudd-daliadau y gallwch chi eu hawlio.
Mae yna fudd-daliadau gwahanol i’w hawlio yn dibynnu ar eich sefyllfa, boed yn daliadau oerfel, budd-daliadau tai, neu bensiynau, cewch hyd i’r holl wybodaeth yn y ddolen ganlynol.
Ail-adrodd hawliad am fudd-dal neu wneud hawliad o’r newydd
- Gallwch ffonio’r Ganolfan Byd Gwaith i wneud hawliad newydd am fudd-dal 0800 012 1888 (Cymraeg) neu 0800 055 6688 (Saesneg)
- Ffôn testun: 0800 023 4888 os ydych chi’n fyddar, yn drwm eich clyw, neu os oes gennych chi anawsterau lleferydd
- Mae galwadau am ddim o linell sefydlog. Efallai y bydd costau yn gymwys wrth ffonio o ffôn symudol, ond bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn trefnu i’ch ffonio nôl os gofynnwch chi.
- Mae’r llinellau ar agor rhwng 8.00am a 6.00pm, ddydd Llun i ddydd Gwener
- Gallwch wneud cais ar-lein.
- Pan fydd y Credyd Cynhwysol wedi disodli’r system fudd-daliadau presennol, bydd pob cais yn cael ei wneud ar-lein (lle bo hynny’n bosibl)
Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib. Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.