Straen, Gorbryder ac Anhwylder Panig
Bydd pawb yn gorbryderu ar ryw adeg. Mae pob un ohonom yn ei deimlo pan fyddwn yn dod wyneb yn wyneb â sefyllfaoedd bygythiol neu anodd. Gall effeithio ar rywun yn eu corff ac yn eu meddwl ac fe allai gael ei achosi gan boeni neu ofn.
Bydd 1 o bob 10 yn profi gorbryder neu ffobia ar ryw adeg yn eu hoes.
Ymwadiad.
Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae’r wybodaeth yn berthnasol iawn i’r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.
Fel arfer, gall ofn a phryder fod yn ddefnyddiol wrth ein helpu i osgoi sefyllfaoedd peryglus, i’n cadw ar flaenau ein traed ac i’n cymell i fynd i’r afael â phroblemau. Er hynny, os yw’r teimladau’n dod yn rhy gryf neu’n para’n rhy hir, fe allent ein rhwystro rhag gwneud yr hyn yr hoffem ei wneud, gan wneud ein bywydau’n ddiflas.
Dyma rai o symptomau rhai sydd dan straen neu sy’n orbryderus:
- Poeni drwy’r amser
- Teimlo’n flinedig
- Methu â chanolbwyntio
- Teimlo’n flin
- Cysgu’n wael
- Profi crychguriadau’r galon
- Chwysu llawer
- Cyhyrau’n brifo ac mewn poen
- Anadlu’n drwm
- Penysgafnder
- Teimlo’n wannaidd
- Camdreuliad
- Dolur rhydd
Ymwadiad.
Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae’r wybodaeth yn berthnasol iawn i’r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.
Mae pwl o banig yn bwl sydyn o ofn a phryder mawr. Ymysg symptomau pwl o banig, mae:
- Mwy o ymwybyddiaeth o guriad y galon
- Chwysu
- Crynu neu ysgwyd
- Ymdeimlad o dagu, diffyg gwynt neu fygu
- Poen neu anesmwythder yn y frest
- Teimlo’n sâl neu boenau yn yr ystumog
- Ymdeimlad o afrealrwydd neu ddiffyg cyswllt â’r hunan neu’r amgylchedd
- Penysgafnder, ansad neu’n wannaidd
- Ofn marw
- Diffyg teimlad neu binnau bach
- Iasau oer neu byliau o wres
Gall sôn am y broblem gyda ffrindiau neu gyda’r teulu fod o gymorth. Gallai dod o hyd i ffyrdd o ymlacio helpu i reoli gorbryder a straen – unrhyw beth, o lyfrau a DVDs hunangymorth hyd at ofyn am help proffesiynol.
Gall meddyginiaeth helpu. Gallwch drafod gyda’ch meddyg teulu os ydych yn meddwl bod hynny’n opsiwn i chi; efallai y byddwch yn cael eich atgyfeirio at feddyg arbenigol, sy’n cael ei alw’n seiciatrydd.
Cofiwch:
- Sôn am eich teimladau
- Cadw’n heini
- Bwyta’n dda
- Cyfyngu faint o alcohol rydych yn ei yfed
- Treulio amser gyda’ch teulu a’ch ffrindiau
- Gofyn am help
- Cymryd seibiant
- Gwneud rhywbeth rydych yn dda am ei wneud
- Cadw’n driw i chi’ch hun
- Gofalu am eraill
Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib. Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.