Senedd yr Ifanc

 Ein Gweledigaeth

Gweledigaeth Wrecsam am y 3 blynedd nesaf:

‘Wrecsam lle mae gan blant a phobl ifanc lais mewn penderfyniadau lleol sy’n effeithio ar eu bywydau!’

(Senedd Yr Ifanc Wrecsam)

 

 

Senedd yr Ifanc Wrecsam yw Senedd Ieuenctid Wrecsam.   Mae’r Senedd yn cynnwys pobl ifanc 11- 25 oed sy’n cael eu hethol i gynrychioli grŵp, prosiect neu ardal. Mae Senedd yr Ifanc yn gweithio i gasglu barn pobl ifanc ar faterion penodol sy’n effeithio ar bobl ifanc Wrecsam. Mae Senedd yr Ifanc yn cyfarfod ar y dydd Llun cyntaf bob mis yn Neuadd y Dref Wrecsam; mae’r cyfarfodydd yn strwythuredig gydag adrannau ffurfiol ac anffurfiol. Gall cyfarfodydd Senedd yr Ifanc hefyd gynnwys dadleuon, gweithgorau sy’n ymdrin â materion, hyfforddiant a llawer mwy. Mae Senedd yr Ifanc yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddweud eu dweud a chael llais ar faterion sy’n effeithio arnynt.

 

Os hoffech chi ymuno â Senedd yr Ifanc, llenwch y ffurflen a’i hanfon i’r manylion cyswllt ar y ffurflen.


 

Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib.  Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.

 

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham