Os ydych yn ei chael yn anodd cael dau ben llinyn ynghyd ac yn gwario mwy o arian nag yr ydych yn ei ennill, rydych angen gwneud rhywbeth amdano. Gall mynd i DDYLED effeithio arnoch am flynyddoedd i ddod.
Os ydych yn cefnogi eich hun am y tro cyntaf, efallai wrth ichi adael cartref neu fynd i’r coleg, byddwch angen talu am lawer o bethau fel rhent, biliau a bwyd. Mae’n syniad da gosod CYLLIDEB o’r dechrau, er mwyn sicrhau bod gennych arian i dalu am bopeth, fel nad ydych yn mynd i ddyled a bod gennych rywfaint dros ben i fwynhau eich hun!
Y peth cyntaf rydych angen ei wneud yw ysgrifennu rhestr o GOSTAU fel rhent, biliau, bwyd a diod, teithio, gweithgareddau hamdden, ad-daliadau ar gardiau a benthyciadau ac ati. Yna rydych angen ysgrifennu rhestr o’ch INCWM fel cyflog, budd-daliadau ac arian arall (e.e. arian gan rieni). Yna tynnwch y Costau o’ch Incwm. Os nad oes gennych ddigon, rydych naill ai angen dod o hyd i ffordd i leihau eich costau neu i gynyddu eich incwm, o bosibl gyda swydd rhan-amser neu drwy weithio mwy o oriau. Os oes yna unrhyw arian dros ben, gallech gadw swm realistig ar gyfer mynd allan, prynu dillad/llyfrau/cerddoriaeth ac ati yna gallech gadw arian ar gyfer CYNILION. Gallai hyn fod yn wyliau, rhywbeth arbennig neu ar gyfer diwrnod glawog!
Mae cyllideb yn amcangyfrif o’r hyn fyddai eich incwm, a’r hyn rydych yn debyg o’i wario yn unig. Mae’n bwysig cadw golwg ar eich incwm a chostau gwirioneddol i wneud yn siŵr bod eich cyllideb yn gywir. Mae’n syniad da cadw llyfr nodiadau a nodi popeth rydych yn ei wario, yna gallwch adolygu eich cyllideb yn rheolaidd ac efallai y cewch syniadau ynglŷn â lle gallech arbed arian – peidio prynu llawer o baneidiau drud pan fyddwch allan er enghraifft.
Os oes gennych broblem gydag arian/dyled neu gwestiwn amdano gallwch:
Ofyn i staff yn y Siop Wybodaeth
Cysylltu â’ch CAB eol
Cysylltu â’r Llinell Ddyled Genedlaethol
Cysylltu ag Elusen Ddyled Step Change