ADTRAC+
Mae’r Prosiect ADTRAC+ yn darparu cefnogaeth un i un i helpu pobl ifanc 16 i 24 oed ystyried eu dewisiadau a symud ymlaen at y cam nesaf yn eu bywyd.
Beth yw ADTRAC+?
Mae ADTRAC+ yn brosiect gwaddol a gyflwynir yn lle ADTRAC sydd wedi ei ddarparu yn flaenorol am dair blynedd yn Sir y Fflint y Wrecsam.
Mae’r Prosiect ADTRAC+ yn darparu cefnogaeth un i un i helpu pobl ifanc 16 i 24 oed ystyried eu dewisiadau a symud ymlaen at y cam nesaf yn eu bywyd. Gallai hyn fod yn edrych ar ble i fynd nesaf ar ôl yr ysgol gan gynnwys addysg bellach a phrentisiaethau neu edrych am gyfleoedd eraill sy’n cynnwys gwirfoddoli neu gyflogaeth. Os nad ydych yn siŵr gallwn hyd yn oed eich helpu i edrych ar eich holl ddewisiadau a siarad drwyddynt gyda chi a gallwch wneud penderfyniad yn seiliedig ar beth sy’n iawn i chi.
Gan weithio gyda chi gallwn ddatblygu cynllun gweithredu sy’n eich helpu i wybod pa gymorth rydych ei angen, gallai hyn olygu edrych ar y rhwystrau sy’n eich atal rhag datblygu, enghraifft o hyn yw defnyddio cludiant cyhoeddus, eich helpu i ddod yn fwy hyderus, datblygu eich sgiliau presennol neu helpu i ddatblygu sgiliau newydd ac i wneud hyn;
Pa gefnogaeth a gynigir:
- Mentor a fydd yn gweithio’n agos gyda chi.
- Cynlluniau gweithredu personol a ddatblygir gyda mentor i weld pa gefnogaeth rydych ei hangen a beth hoffech ei wneud yn y dyfodol.
- Cefnogaeth i ymdrin ag unrhyw rwystrau sy’n eich atal rhag cyflawni eich nodau. Gall hyn olygu cyfarfod gyda gwasanaethau eraill sy’n arbenigwyr yn y maes hwnnw.
- Cefnogaeth les gan gynnwys y cyfle i weld Ymarferydd Iechyd Meddwl o CAMHS.
- Mynediad at gyfleoedd megis cyrsiau hyfforddi, gwirfoddoli a grwpiau cyfoed.
- Eich rhoi mewn cysylltiad gyda gwasanaethau eraill a all eich helpu i edrych ar eich dewisiadau ar gyfer y dyfodol gan gynnwys Gyrfa Cymru a’r Adran Gwaith a Phensiynau.
Yn ogystal â’r ffurflen atgyfeirio, mae yna hefyd daflen y gellir ei lawrlwytho, a fydd yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am ein prosiect, a gellir eu harddangos a’i defnyddio gennych chi.
I weld sut rydym wedi cefnogi pobl ifanc yn y gorffennol edrychwch ar y taflenni a’r fideos isod
Manylion cyswllt
Os hoffech siarad gyda rhywun am ADTRAC+ gallwch gysylltu drwy;
E-bost: adtrac@wrexham.gov.uk
Neu ffonio 01978 295518