BETH YW EICH STORI CHI? LANSIO AROLWG I GASGLU BARN POBL IFANC AM WASANAETHAU CYHOEDDUS

Postiwyd ar:   Postiwyd gan:

https://www.facebook.com/auditwales/videos/vb.486386551477122/1575378832577883/?type=2&theater

Mae Swyddfa Archwilio Cymru am gasglu straeon pobl 16 i 25 oed am eu profiadau o ran cyrchu a defnyddio’r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnal astudiaeth i edrych ar y modd y mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati’n strategol i gynllunio gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc 16-25 oed.

Bydd yr astudiaeth yn gofyn ‘beth yw’r prif wersi i’w dysgu o ymdrechion Llywodraeth Cymru i ddatblygu dull integredig o wella lles pobl ifanc?’ Bydd yn edrych i weld pa mor gydgysylltiedig yw’r modd y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl ifanc, a hynny ledled pob rhan o’r Llywodraeth.

Yn rhan o’r astudiaeth, mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi lansio arolwg byr wedi’i anelu at bobl 16 i 25 oed. Nod yr arolwg yw casglu profiadau pobl ifanc o gyrchu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru, p’un a yw’r profiadau hynny’n dda neu’n ddrwg, a cheisio darganfod y canlynol:

  • A yw pobl ifanc yn cael eu cynorthwyo’n briodol i gael gwasanaethau cyhoeddus?
  • Pa mor dda y mae gwasanaethau gwahanol a gynlluniwyd i gynorthwyo pobl ifanc yn cydweithio â’i gilydd?
  • A oes enghreifftiau lle mae gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc yn gorgyffwrdd, neu feysydd lle y gall pobl ifanc ddisgyn trwy fylchau yn y ddarpariaeth?

Bydd yr arolwg yn parhau trwy gydol misoedd Chwefror a Mawrth. Byddwn yn defnyddio’r straeon a gasglwn i nodi gwelliannau i gyfoethogi profiadau pobl ifanc o’r gwasanaethau cyhoeddus.

Gallwch lenwi arolwg byr, dienw trwy ymweld â’n tudalen Facebook www.facebook.com/auditwales/ lle ceir dolenni i’r arolwg a rhagor o wybodaeth.

 

Cyber Essentials Logo

Partneriaid Ariannu

families first
cardiff partnership
promo cymru
Wrecsam Ifanc : News and Information for Young People in Wrexham