Beth yw ystyr gwaith ieuenctid i chi?
Beth mae gwaith ieuenctid yn ei gynnig i chi nawr?
Beth hoffech chi i waith ieuenctid ei gynnig?
Sut hoffech chi gyfrannu at y broses o lywio gwaith ieuenctid?
Mae Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro Cymru yn ceisio barn pobl ifanc rhwng 11 a 25 mlwydd oed i helpu hysbysu Llywodraeth Cymru ar sut y gall gwasanaethau gwaith ieuenctid weithio ar gyfer pob person ifanc.
Let’s Talk Presentation – Welsh
Let’s Talk – Feedback Sheet – Welsh
Let’s Talk Letter – Keith Towler – Young People – Welsh
Gofynna’r Bwrdd i weithwyr ieuenctid a sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl ifanc i rannu’r cyflwyniad a chwblhau taflen adborth sy’n crynhoi’r trafodaethau a’r ymatebion. Dychwelwch y daflen adborth trwy e-bost os gwelwch yn dda.
Mae’r cyflwyniad yn cynnwys cwestiynau cychwynnol a nodiadau cyfarwyddiad i annog a hwyluso trafodaethau. Bydd y Bwrdd yn trafod yr adborth yn y Gynhadledd Gwaith Ieuenctid a gynhelir yng ngogledd Cymru ar 20 Chwefror 2019.
Dyddiad cau i gyflwyno adborth: 14 Ionawr 2019