Beth yw’r Mis Ymwybyddiaeth o Ganser ymysg Dynion gan Everyman?
- Yn ôl arolwg a gynhaliwyd gan Everyman yn 2006 dim ond 28% o ddynion sy’n archwilio eu ceilliau’n rheolaidd er mwyn gweld a oes ganddynt ganser y gaill.
- Mae Ymgyrch Everyman yn tynnu sylw dynion a merched at ganser y gaill a’r prostad.
- Mae’r rhan fwyaf o ddynion sy’n dioddef gan ganser y brostad yn hŷn na 60 oed ac anaml iawn y mae dynion o dan 50 oed yn cael y clefyd hwn.
- Mae canser y gaill yn effeithio ar ddynion ieuengach yn bennaf a dyma’r math mwyaf cyffredin o ganser ymysg dynion rhwng 15 a 44 oed. Mae e’n dal i fod yn eithaf anghyffredin a byddwn ond yn cael bron 2,000 o achosion newydd y flwyddyn yn y DU. Ers 1978 mae amlder canser y gaill wedi cynyddu ddwywaith a rhagor, ond ni wyddys hyd yma beth yw’r rhesymau dros hyn. Gellir iachau 99% o achosion canser y gaill os oes modd mynd i’r afael â hwy’n brydlon; os caiff yr achosion eu trin mae’r gyfradd iachau drwyddi draw yn uwch na 95%. Mae canser y gaill yn achosi oddeutu 70 marwolaeth bob blwyddyn yn y DU.
Ymwadiad.
Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae’r wybodaeth yn berthnasol iawn i’r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.
Beth yw Canser y Gaill?
- Mae canser y gaill yn datblygu o’r tu mewn i’r celloedd yn y ceilliau. Fel arfer bydd i’w weld fel lwmp yn y gaill.
- Os bydd dynion yn archwilio eu hunain yn rheolaidd gall hynny eu cynorthwyo i weld, yn brydlon, a ydynt yn dioddef gan ganser.
- Os nad yw’r canser yn cael ei drin mewn da bryd, gall celloedd y canser ymwahanu ac ymledu i’r lymffgnotiau gerllaw neu i’r organau eraill.
- Os bydd lwmp neu newid yn y ceilliau’n cael ei weld, bydd y Meddyg Teulu yn trefnu prawf er mwyn gweld yn union a yw’r lwmp yn ddiberygl neu’n dyfiant o bosibl.
Mae’r rhan fwyaf o lympiau’n ddi-ganser ond mae’n bwysig ichi gael archwiliad meddygol gan eich Meddyg Teulu er mwyn ichi fod yn dawel eich meddwl.
Ffactorau Perygl
- Oed – yn amlach na pheidio dynion ifanc a chanol oed ac nid yr henoed, sy’n dioddef gan ganser y gaill. Mae e’n digwydd yn amlach ymysg dynion 15-44 oed nag ymysg neb arall.
- Gallai caill gudd, ar enedigaeth y person, olygu bod pump i ddeg gwaith rhagor o berygl iddo ddioddef canser y gaill.
- Hanes teulu – mae cael tad, brawd neu fab sydd wedi cael canser y gaill yn golygu y bydd llawer mwy o berygl i’r person gael y clefyd hwn.
- Dioddef gan ganser y gaill o’r blaen – os bydd y person eisoes wedi cael canser y gaill yna bydd mwy o berygl iddo gael canser yn y gaill arall hefyd. Fodd bynnag, anaml iawn y ceir canser yn y ddwy gaill.
- Hil ac ethnigrwydd – mae canser y gaill yn fwy cyffredin ymysg Cawcasiaid nag ymysg unrhyw bobloedd eraill.
Arwyddion a Symptomau
Os byddwch yn archwilio eich hun yn rheolaidd bydd hynny’n eich cynorthwyo i fod yn fwy ymwybodol o deimlad a maint arferol eich caill sy’n golygu y byddwch yn sylwi, mewn da bryd, ar unrhyw beth na ddylai fod yno; lwmp yn un o’r ceilliau, unrhyw chwydd i’r gaill, y ceillgwd yn teimlo’n drwm; poen mud yn yr abdomen neu gesail y forddwyd, hylif yn cronni’n sydyn yn y ceillgwd; rhan uchaf y frest yn chwyddo neu’n dyner i’w chyffwrdd. Os bydd gennych unrhyw un o’r symptomau hyn, peidiwch ag oedi gan obeithio y byddant yn diflannu – ewch i weld eich meddyg ar unwaith er mwyn cael archwiliad. Bydd y rhan fwyaf o lympiau’n ddi-ganser ond cyntaf yn y byd y cewch chi wybod beth yw beth, cyntaf yn y byd y cewch chi unrhyw driniaeth angenrheidiol. Byddwch yn fwy tebygol o gael gwell canlyniad hefyd.
Diagnosis a Thriniaeth
Os yw’ch meddyg o’r farn y gallech chi fod yn dioddef gan ganser y gaill, yna mae e’n debygol o argymell un neu ragor o’r dewisiadau hyn: eich atgyfeirio at lawfeddyg; prawf gwaed; biopsi; pelydr-x; sganiad uwchsain. Diben y profion hyn yn y lle cyntaf yw cael gwybod a ydych chi’n dioddef gan ganser y gaill ac yn ail, gweld yn union a yw’r canser wedi ymledu ac, os ydyw, i ba raddau mae hynny wedi digwydd. Os ydych chi’n dioddef gan ganser y gaill a’i fod yn cael ei ganfod yn brydlon ac nad yw’r canser wedi ymledu, bydd y driniaeth fel rheol yn ymwneud â chael llawdriniaeth er mwyn cael gwared â’r gaill ganseraidd. Os yw’r canser wedi ymledu, bydd y driniaeth hon fel arfer yn cael ei dilyn gan driniaeth cemotherapi am dri i bedwar mis.
Gall y driniaeth ar gyfer canser y gaill fod yn un ddwys iawn, ond ni fydd y rhan fwyaf o gleifion sy’n cael iachâd llwyr ar ôl canser y gaill, yn dioddef unrhyw sgil-effeithiau hirdymor ar ôl y driniaeth. Yn ôl pob tebyg bydd eich ffrwythlondeb a’ch bywyd rhywiol yn cael adferiad llwyr ar ôl i’r driniaeth ddod i ben.
Os bydd rhaid cael gwared ag un o’ch ceilliau dylech gael y cynnig canlynol; sef gosod un prosthetig yn ei lle. Bydd y gaill iach arall yn tueddu i gynhyrchu digonedd o sberm i wneud iawn am y golled.
Hunanarchwiliad am Ganser y Gaill
Ymwadiad.
Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae’r wybodaeth yn berthnasol iawn i’r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.
- Dylech gymryd y camau rhwydd hyn yn rheolaidd. Ar ôl cael bath neu gawod gynnes mae croen y ceillgwd yn llacio ac wedyn fe allai fod yn haws i chi wneud archwiliad trylwyr. Mae’r rhan fwyaf o lympiau a geir ar y ceilliau yn ddiberygl ond os ceir unrhyw newidiadau mewn maint, siap neu bwysau, yna dylech fynd at eich Meddyg Teulu am archwiliad.
- Defnyddiwch gledr eich llaw i gynnal y ceillgwd er mwyn ichi ddod yn gyfarwydd â maint a phwysau’r ddwy gaill.
- Archwiliwch y ddwy gaill trwy rolio’r naill a’r llall rhwng eich bysedd a’ch bawd. Teimlwch, yn ofalus, er mwyn gweld a oes lympiau neu chwyddiadau yno neu a yw’r ffyrfder wedi newid o gwbl.
- Mae gan y ceilliau epididymis ar eu pen uchaf, sy’n mynd â sberm i’r pidyn. Peidiwch â chynhyrfu os byddwch chi’n teimlo hyn – mae’n iawn, does dim byd o’i le.
- Os byddwch chi’n archwilio eich hun yn rheolaidd fe ddowch yn fwy ymwybodol o deimlad a maint arferol eich ceilliau er mwyn ichi sylwi mewn da bryd ar unrhyw beth na ddylai fod yno. Os gwelwch chi rywbeth anarferol, cofiwch fynd i weld eich Meddyg Teulu cyn gynted ag y gallwch.
Cysylltiadau Buddiol
www.macmillan.org.uk 0808 808 2020 (9am-9pm o ddydd Llun i ddydd Gwener)
youthline@macmillan.org.uk 0800 808 0800 (9am-9pm o ddydd Llun i ddydd Gwener)
www.nhsdirect.nhs.uk 0845 46 47
www.samaritans.org.uk 08457 90 90 90
www.teencancer.org 0207 387 1000
www.cancerbacup.org.uk 0808 800 1234 (9am-8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener)
www.mariecurie.org.uk 0800 716 146
www.childline.org.uk 0800 1111
www.crusebereavementcare.org.uk 0844 477 9400(Llinell Gymorth o Ddydd i Ddydd)
0808 808 1677(Llinell Gymorth i Bobl Ifanc)
www.clicsargent.org.uk 0800 197 00689 (9am-5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener)
www.click4tic.org.uk/Home TIC (Gwybodaeth am Ganser i’r Glasoed)