Mae pobl ifanc o Senedd yr Ifanc (Senedd Pobl Ifanc Wrecsam) yn gwadd Aelodau Cyngor Wrecsam bob blwyddyn i weithdy a gynhelir ganddynt.
Nod y gweithdy yw i Aelodau’r Cyngor weld y gwaith sydd wedi mynd rhagddo o fewn Senedd yr Ifanc dros y 12 mis diwethaf a rhoi diweddariad ar bwysigrwydd cyfranogiad pobl ifanc a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
Eleni roedd 15 Aelod Cabinet yn bresennol a derbyniwyd 9 ymddiheuriad. Roedd 10 unigolyn ifanc o’r Senedd yn cefnogi gyda datblygiad a gweithrediad y gweithdy.
Dechreuodd Aelodau Senedd yr Ifanc y gweithdy gyda chroeso cynnes a chyflwyniad cryno i bwy oeddent.
Yna cawsant sesiwn i dorri’r ia ar gyfer y cynghorwyr? Realiti pwy? Roedd hyn yn cynnwys canlyniadau ymgynghoriad gan bobl ifanc ar faterion lleol a chenedlaethol. Gofynnwyd i’r cynghorwyr ddyfalu atebion pobl ifanc i’r cwestiynau.
Yna, aethant ymlaen i gyflwyno power point i egluro ychydig mwy am Senedd yr Ifanc, ac i ddangos ychydig o’u gwaith yn ystod y flwyddyn. Roedd hyn yn cynnwys: Aelod o Senedd Ieuenctid y DU. Senedd Ieuenctid Cymru, ein gwaith ymgynghori, prosiect Diwrnod Rhyngwladol y Merched, gwaith gyda Sally Holland (Comisiynydd Plant Cymru), Diwrnod Chwarae, digwyddiad Cyngor Ysgol y Gwanwyn, gwaith gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, prosiectau gyda Phlant yng Nghymru, yr hyfforddiant rydym wedi ei gyflawni, a chreu ffilmiau hyrwyddo bychain Dyluniwch Fy Senedd.
Ar ôl y cyflwyniad cynhaliom weithgareddau i ddangos pwysigrwydd cyfranogiad pobl ifanc a chawsom ddiweddariad ar CCUHP gan ddangos pwysigrwydd Erthygl 12.
Yna gweithiodd y bobl ifanc a’r Cynghorwyr ar weithgaredd i weld sut y gallent gydweithio yn y dyfodol. Roedd nifer o awgrymiadau a gofynnwyd nifer o gwestiynau. Bydd y bobl ifanc yn edrych ar hyn yn ystod eu cyfarfod nesaf i weld sut y gallent symud ymlaen a chydweithio.
Daeth y bobl ifanc a’r sesiwn i ben gyda sesiwn holi ac ateb, lle’r oedd cyfle i’r cynghorwyr ofyn cwestiynau i’r bobl ifanc am eu gwaith a’u swyddogaethau o fewn Senedd yr Ifanc.
Cafwyd adborth da gan y bobl ifanc ac Aelodau’r Cyngor.
Andrew Atkinson – Rwy’n siŵr y cytunwch ei fod yn weithdy gwych ac mae’r bobl ifanc hyn yn glod i’r Fwrdeistref Sirol.
Mark Jones – Roedd yn weithdy ysbrydoledig, ac rwy’n siŵr y bydd Caroline a Tricia yn cyfleu ein diolch i’r holl bobl ifanc.