Canabis
Y CYFFUR ANGHYFREITHIOL SY’N CAEL EI DDEFNYDDIO FWYAF YN Y DEYRNAS UNEDIG – OND COFIWCH, DIM POB PERSON IFANC SYDD YN EI DDEFNYDDIO.
Hwn ydi’r cyffur anghyfreithlon sy’n cael ei ddefnyddio fwyaf gan bobl ifanc ac mae ganddo sawl enw, gan gynnwys grass, ganja, skunk a weed. Mae pobl ifanc yn cymryd canabis drwy ei ysmygu gyda thybaco a gwneud sigarét o’r enw joint neu ddefnyddio potel blastig i wneud bong. Mae pobl ifanc hefyd yn defnyddio canabis i wneud cacennau ‘gofod’.
Pam bod pobl ifanc yn cymryd canabis medde chi? Yr ateb yn syml ydi i gael hwyl, ymlacio, i deimlo’n benfeddw ac i anghofio am bethau. Fe allwch chi deimlo’r holl bethau yma ond mae pobl ifanc hefyd yn sôn am deimlo’n lledwyn pan fyddan nhw wedi cael gormod o ganabis neu wedi yfed alcohol neu heb fwyta llawer cynt. Pan fyddwch chi’n teimlo’n lledwyn does arnoch chi ddim eisiau siarad, rydych chi’n chwysu ac yn teimlo’n oer ac yn llaith, ac weithiau byddwch chi’n chwydu. Yn aml iawn bydd eich ffrindiau yn tynnu lluniau ohonoch chi ac yn eu rhoi ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae pobl ifanc hefyd yn sôn am gael pen mawr y diwrnod wedyn a theimlo’n ansicr ynghylch pethau. Mae hynny hefyd yn gwneud i chi deimlo’n ddiymdrech a swrth, a gall cymryd canabis yn rheolaidd arwain at ddiffyg cymhelliant sy’n effeithio ar eich bywyd teuluol, ysgol a gwaith.
Yn ystod y ddegawd ddiwethaf mae canabis wedi mynd yn gryfach ac yn gryfach, a’r hyn sy’n bryder mawr i ni ydi’r paranoia a’r gorbryder y mae pobl ifanc yn dweud wrthym ni amdano pan fyddan nhw’n cymryd canabis. Mae’r paranoia a’r gorbryder hwn yn gallu achosi llawer o broblemau, fel colli cof a phyliau o banig. Mae pobl sy’n cymryd canabis hefyd yn pellhau oddi wrth ffrindiau nad ydyn nhw’n ysmygu canabis.
Mae cymryd canabis am fisoedd lawer yn cynyddu’r perygl o gyfnodau seicotig fel sgitsoffrenia ac mae mwy a mwy o bobl ifanc yn derbyn gwasanaethau iechyd meddwl oherwydd hyn.
Yn olaf, mae llawer o bobl ifanc yn credu bod defnyddio canabis yn gyfreithlon. Dydi hyn ddim yn wir. Mae’n gyffur dosbarth B sy’n gallu arwain at ddelio gyda’r gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid neu, yn dibynnu ar eich oed, at Hysbysiad Cyhoeddus am Anhrefn. Gallwch dderbyn 5 mlynedd o garchar am feddiant ac 14 mlynedd am gyflenwi.
Os hoffech chi fwy o wybodaeth ewch i www.talktofrank.com neu cysylltwch ag in2change, sef gwasanaeth cyffuriau ac alcohol Wrecsam ar gyfer pobl ifanc.
Defnyddio Canabis
Yn In2change rydym yn gweithio gyda phobl ifanc gan godi ymwybyddiaeth o risgiau a chanlyniadau defnyddio Canabis. Mae llawer o fythau yn cael eu cylchdroi yn ymwneud â defnyddio canabis. Dyma fideo y mae In2change yn ei ddefnyddio i ddangos yr effeithiau byrdymor a hirdymor o ddefnyddio canabis. Gyda diolch i Mac.org.uk.
http://www.mac-uk.org/cannabis-film/
Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib. Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.