UNCRC
Hawliau Dynol. Y dyddiau hyn mae pobl yn rhoi ochenaid pan maent yn clywed y geiriau hyn.
Ymwadiad.
Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae’r wybodaeth yn berthnasol iawn i’r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.
Ond, mae hawliau dynol yn sicrhad – yn ôl y gyfraith – sy’n diogelu holl fodau dynol (chi a mi…dwi’n meddwl).
I blant a phobl ifanc, mae hawliau ychwanegol i’n diogelu ac i sicrhau ein bod yn cael y cyfleoedd gorau mewn bywyd.
Ymwadiad.
Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae’r wybodaeth yn berthnasol iawn i’r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.
Datblygwyd yr hawliau ychwanegol hyn gan y Cenhedloedd Unedig ac wedi’u manylu mewn rhywbeth a enwir yn CCUHP – Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
Mae ein llywodraethau yn gyfrifol am wneud yn siŵr bod gennym addysg, gwybodaeth, ymglymiad mewn gwneud penderfyniadau, gofal iechyd, safon dda o fyw, gweithgareddau hamdden, triniaeth deg yn y system cyfiawnder troseddol (y llysoedd ac ati), a phethau da fel hyn!
Y Dolenni Gorau
Comisiynydd Plant Cymru | CCUHP – Cyflwyniad byr a hawdd i’w ddeall i CCUHP gan unigolyn sy’n sefyll dros blant a phobl ifanc yng Nghymru ac yn gwneud yn siŵr bod eu hawliau yn realiti.
Cyngor ar Bopeth | Hawliau Plant yng Nghymru – Llawer o wybodaeth hawdd i’w ddeall ynghylch eich hawliau plant yng Nghymru.
Dolenni defnyddiol eraill
Achub y Plant | CCUHP– cyflwyniad da a manwl i’r CCUHP.
UNICEF | Beth yw CCUHP? – eglurhad dwys ond mwy o’r CCUHP.
Comisiynydd Plant Cymru | CCHUP – Rhestr o Hawliau Plant– rhestr hawdd iawn i’w ddeall o’ch holl hawliau.
Full Circle – gyda maniffesto o hawliau merched yng Nghymru
UNICEF | FACTSHEET: Crynodeb o’r hawliau dan Gonfensiwn Ar Hawliadau Plant – crynodeb hirach o’ch holl hawliau na’r ddolen uchod.
Gwefan Hawliau Plant Cymru – Maent yn dweud, “Darganfod yr holl hawliau i blant yn y CCUHP ac archwilio’r adnoddau, ffilmiau, gemau a gwybodaeth.”
Agenda – Agenda yw canllaw person ifanc i wneud perthnasau cadarnhaol o bwys. Ei amcan yw mynd i’r afael â materion fel cydraddoldeb rhywiol, trais ar sail rhyw, ac aflonyddu rhywiol mewn ysgolion.
Llinellau Cymorth
Os hoffech ragor o wybodaeth ynghylch eich hawliau, yn teimlo nad yw eich hawliau’n cael eu bodloni, yn teimlo nad ydych yn cael eich trin yn iawn gan rywun megis eich athro neu weithiwr cymdeithasol, neu fe hoffech gael cyngor ar sut i wneud cwyn am benderfyniad Gweinidog mewn perthynas â’ch hawliau, gallwch gysylltu â Meic isod. Hefyd gallwch gysylltu â ChildLine neu’r Samariaid.
Meic – llinell gymorth genedlaethol i blant a phobl ifanc (0-25 oed) yng Nghymru – testun (84001), rhadffôn (080880 23456), sgwrsio ar y we , neu anfonwch e-bost i gael gwybodaeth, cyngor neu eiriolaeth.
ChildLine – llinell gymorth cwnsela 24 awr am ddim (gan NSPCC) i blant a phobl ifanc hyd at eu pen-blwydd yn 19 oed.
Y Samariaid – llinell gymorth 24 awr am ddim i unrhyw un sydd eisiau cymorth emosiynol.
Apiau a Gemau
Our Rights – Wales (the link is to iTunes) – “Datblygwyd yr ap hwn (dwyieithog) gydag ac ar gyfer Llywodraeth Cymru i helpu pobl sy’n byw yng Nghymru gael rhagor o wybodaeth am hawliau plant a phobl ifanc.” Sylwch: mae hwn am ddim ond cafodd ei ddiweddaru diwethaf ar 11 Mai, 2013, dylid gwirio ffeithiau’r cynnwys.
Oeddech chi wedi sylweddoli?
Gallwch arfer rhai o’ch hawliau ar theSprout (y wefan hon!):
Hawl #13 – Mae gan blant hawl i gael a rhannu gwybodaeth. Dod o hyd i wybodaeth neu gyflwyno eich pethau eich hun!!
Hawl #17 – Mae gan blant hawl i gael gwybodaeth sydd yn bwysig i’w hiechyd a lles… Oes, wedi’i gynnwys (gan gynnwys pobl ifanc)…
Hawl #17 parhad – Mae gan blant hawl i gael gwybodaeth onest o bapurau newydd a theledu y maent yn gallu eu deall. Gobeithio y cewch ein holl wybodaeth yn hawdd i’w deall, ond os ddim, gadewch i ni wybod.
Hawl #12 – Mae gan blant hawl i ddweud beth y maent yn credu dylai ddigwydd, pan fydd oedolion yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw, ac i gael ystyriaeth o’u safbwyntiau. Dyma pam rydym ni wrth ein boddau yn rhannu grwpiau, digwyddiadau, arolygon ac ymgynghoriadau y gallwch fod ynghlwm i ddweud eich dweud (gweler adran eich llais, eich Wrecsam!).
Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib. Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.