Ymgynghoriadau
Gwasanaethau cymorth ieuenctid i bobl ifanc
Mae’r holiadur hwn ar gyfer pobl ifanc 11 i 25 oed, sy’n byw yng Nghymru.
Mae’r cwestiynau canlynol yn ymwneud â’r gwasanaethau cymorth ieuenctid sydd ar gael i bobl ifanc 11 i 25 oed yng Nghymru. Bwriedir i’r gwasanaethau hyn eich helpu i gymryd rhan mewn addysg a hyfforddiant, manteisio ar gyfleoedd gwaith a chymryd rhan yn effeithiol ac yn gyfrifol ym mywyd eich cymuned.
Yn rhai o’r cwestiynau, rydym ni’n rhoi enghreifftiau o’r gwasanaethau hyn, ond mae’n bosibl nad yr enghreifftiau sydd wedi’u rhestru yw’r unig wasanaethau byddwch chi’n eu defnyddio
Mae’r wybodaeth a ddarparwch yn yr holiadur hwn yn gyfrinachol. Ni chaiff ei defnyddio i’ch enwi chi’n bersonol ac Estyn yn unig fydd yn gallu mynd at y wybodaeth hon.
Byddwn yn rhannu gwybodaeth gyffredinol gyda Llywodraeth Cymru, ond nid sylwadau na holiaduron unigol.
Ni fydd yr holiadur yn cymryd mwy na 15 munud i’w lenwi.
Beth sydd bwysicaf?
Rydym ni’n gweithio ar gynllun a fydd yn ffurfio presennol a dyfodol Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Bydd yn effeithio ar eich bywyd chi, a bywydau cenedlaethau’r dyfodol.
Diolch am eich cymorth hyd yma. Mae llawer iawn i’w wneud felly rydym yn gobeithio y byddwch yn parhau i’n helpu i gyflawni’r dyfodol rydym i gyd ei eisiau.
Mae’n bwysig iawn ein bod yn sicrhau ei fod yn gywir. Dyma pam rydym yn eich cynnwys chi bob cam o’r ffordd, ac rŵan rydym eisiau i chi helpu i benderfynu pa rai o’r blaenoriaethau arfaethedig yw’r mwyaf pwysig.
Dywedwch wrthym beth sydd bwysicaf
Sefydlu Senedd ieuenctid i Gymru
Mae’r Cynulliad wedi bod mewn cysylltiad â degau o filoedd o blant a phobl ifanc ers iddo gael ei sefydlu yn 1999, ac o ganlyniad, mae llais a safbwyntiau pobl ifanc wedi cael mwy o ddylanwad ar waith y Cynulliad. Mae’r Cynulliad yn cydnabod pa mor werthfawr yw’r cyfraniad hwn ac mae’n awyddus i sefydlu senedd ieuenctid fel bod pobl ifanc yn gallu trafod materion sydd yn bwysig i nhw ar lefel genedlaethol. Mae’r Cynulliad wedi bod yn gweithio gyda phobl ifanc ac oedolion o sefydliadau ieuenctid cenedlaethol i ddatblygu prif elfennau senedd ieuenctid i Gymru er mwyn i chi eu hystyried. Dyma eich cyfle chi i gael dweud eich dweud ar y senedd ieuenctid a sut y bydd yn gweithio. Mae’n bosib i chi gael dweud eich dweud drwy lenwi ein arolwg. Bydd yr arolwg yn cau ar 30 Mehefin.
Hoffem ofyn i bobl ifanc sydd ag anableddau neu anghenion ychwanegol a’u brodyr a’u chwiorydd am eu barn ar ddarpariaeth gwasanaethau ar gyfer teuluoedd sydd â phlant anabl yn Wrecsam. Bydd canlyniad yr arolwg yn ein helpu i gomisiynu’r gwasanaethau cywir ar gyfer y teuluoedd hynny.
Strategaeth Gyfranogiad – Croesewir Eich Barn
Er mwyn cael mwy o bobl ifanc yn gysylltiedig â gwneud penderfyniadau a wneir yn Wrecsam, mae ynghynghoriad yn cael ei gynnal ar hyn o bryd yn gofyn am farn ar y Strategaeth Gyfranogiad ar gyfer 2017 – 2020.
Mae’r Strategaeth Gyfranogiad yn amlygu sut mae’r cyngor am sicrhau y clywir llais pobl ifanc bob amser pan mae’n dod i benderfyniadau pwysig. Felly, mae’n bwysig iawn eu bod yn rhoi eu barn arni.
Mae croesi i chi gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ac annog pobl ifanc yr ydych yn eu hadnabod i gymryd rhan hefyd.