Mynd o le i le
Bysus a Threnau
Bysus a threnau yw’r prif fath o gludiant cyhoeddus rhwng llefydd. Mae gan Wrecsam lawer o fysus yn rhedeg i lawer o ardaloedd gwahanol, tra bod Trenau Arriva Cymru yn rhedeg y rhan fwyaf o’r trenau. Mae’r ddau yn cynnig teithio gostyngol i bobl ifanc ac mae yna fynhocynteithio sy’n cynnig gostyngiad teithio ar gludiant cyhoeddus i bobl ifanc 16 – 18 oed ar draws Cymru. Gallwch hefyd brynu’r cerdyn rheilffordd 16-25 sy’n tynnu 1/3 oddi ar bris teithio.
Gwiriwch i weld a ydych yn gymwys i gludiant am ddim i’r ysgol os ydych yn 16+ oed gyda Chyngor Wrecsam
Mae Traveline Cymru yn darparu gwybodaeth ar gludiant cyhoeddus ar draws Cymru, ac mae Google Maps yn parhau i wella gyda’i wybodaeth am gludiant cyhoeddus.
Mae diogelwch yn bwysig wrth ddefnyddio cludiant yn arbennig os ydych yn teithio eich hun, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod amseroedd cludiant a bod rhywun yn gwybod lle rydych yn mynd.
Cadwch eich eiddo personol gyda chi neu mewn lle diogel tra’n teithio ac os bydd rhywbeth yn mynd ar goll rhowch wybod ar unwaith.
Beicio
Cerdded yw’r modd rhataf o gludiant ac mae’n dda i iechyd fel beicio. Yn Wrecsam mae gennych Pedal Power ar gyfer llogi beic, hyfforddiant a chyngor, tra bod gan Sustrans Cymru gyngor a llwybrau beicio.
Ydych chi erioed wedi meddwl os ydych yn cael beicio ar y palmant? Mae Rheol 64 o Reolau’r Ffordd Fawr yn dweud – NA DDYLECH feicio ar y palmant. Mae yno yn amlwg.
Dysgu gyrru
Ymwadiad.
Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae’r wybodaeth yn berthnasol iawn i’r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.
Gallwch ddysgu gyrru car yn 17 oed (16 os ydych am yrru moped neu feic cwad ysgafn).
Gallwch wneud cais am drwydded dros dro pan rydych yn 15 oed a 9 mis.
Mae tudalen Dysgu Gyrru Gov.uk yn cynnwys yr holl wybodaeth rydych ei hangen am brofion, ffioedd, cyfyngiadau oed ac ati.
Mae Cyngor y BBC hefyd yn cynnwys llawer o wybodaeth a chyngor.
Tacsis
Mae Tacsis yn ffordd wych, gyflym o gludiant os nad oes gennych gar. Dyma rywfaint o gyngor ar sut i aros yn ddiogel wrth gael tacsi
Gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu gan gwmni tacsi neu o orsaf tacsis duon.
Mae deilwyr trwydded yn gorfod dangos bod eu cerbyd yn ddiogel i’w ddefnyddio felly peidiwch â mynd i mewn i dacsi nad yw’n edrych yn ddiogel.
Mae gan rai tacsis fesurydd ac eraill ddim, os nad oes ganddynt fesurydd gwnewch yn siŵr eich bod yn cael pris am y siwrnai fel nad ydych yn cael syrpreis drud ar ddiwedd y daith.
Mae’n rhaid i bob tacsi arddangos trwydded – dylai pob gyrrwr tacsi arddangos bathodyn sy’n dangos ei r/rhif trwydded, mae hwn yn cael ei gyhoeddi gan y cyngor lleol fel symbol o ddiogelwch.
Tramiau
Yn anffodus, nid oes gennym dramiau yma, er gwaethaf y gan ardderchog o Gymru gan y Super Furry Animals…
Ymwadiad.
Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae’r wybodaeth yn berthnasol iawn i’r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.
Dolenni Defnyddiol
- The Mix: Yfed a Gyrru
- The Mix: Dysgu Gyrru
- The Mix: Teithio ar Feic
- Gov.UK: Rheolau’r Ffordd Fawr
- BBC Advice: Dysgu Gyrru
- RNIB: Cymorth a Chefnogaeth gyda Theithio
- The Mix: Prynu Car Ail Law
- The Mix: Anabledd a Defnyddio Cludiant Cyhoeddus
- Cyngor ar Bopeth – Cyngor i Deithwyr Anabl
- The Student Room: Cyngor ar Ddysgu Gyrru
- Turn2Us: Costau Teithio – Pobl Anabl a Gofalwyr – Consesiynau Bws
Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib. Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.