Mae disgyblion Ysgol Sant Christopher wedi bod yn gweithio’n galed iawn yn ddiweddar i ennill cymhwyster Agored Cymru, gan edrych ar effeithiau, peryglon a chanlyniadau yfed alcohol. Fel rhan o’r cymhwyster bu i brosiect cyffuriau ac alcohol in2change ymweld â’r disgyblion i helpu i wella eu dealltwriaeth ac i roi hyder iddyn nhw wneud dewisiadau doeth o ran yfed alcohol.
Meddai Doc Hughes o in2change: “Roedd hi’n braf cael treulio ychydig o oriau gyda’r grŵp, a oedd eisoes wedi gwneud gwaith penigamp. Dywedodd yr athro dosbarth wrth Wrecsam Ifanc bod pawb wedi cael prynhawn da, gan gymryd rhan a gwisgo’r sbectolau cwrw. Fe gawsom ni ymatebion doniol iawn ac rydw i’n edrych ymlaen at y sesiwn nesaf gan fod y disgyblion wedi dysgu llawer.”
Os ydych chi’n credu y gall eich ysgol neu’ch grŵp cymunedol chi elwa ar sesiynau cyffuriau ac alcohol in2change, ewch i www.in2change@wrexham.gov.uk neu cysylltwch ag @wrecsamifanc ar Twitter neu Facebook. Fel arall, ffoniwch (01978) 295629.