{"id":6396,"date":"2017-04-19T15:27:41","date_gmt":"2017-04-19T15:27:41","guid":{"rendered":"http:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/?page_id=6396"},"modified":"2017-05-11T15:28:18","modified_gmt":"2017-05-11T15:28:18","slug":"iechyd-rhywiol-3","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/info\/sexual-health-2\/iechyd-rhywiol-3\/","title":{"rendered":"Ydych chi&#8217;n meddwl fod gennych chi Haint a Drosglwyddir yn Rhywiol?"},"content":{"rendered":"<p><strong>Ydych chi&#8217;n meddwl fod gennych chi Haint a Drosglwyddir yn Rhywiol? <\/strong><\/p>\n<p>Gall rhai heintiau gael eu trosglwyddo i berson arall drwy ryw gweiniol, rhyw rhefrol neu ryw geneuol. Mae heintiau sy&#8217;n cael eu lledaenu fel hyn yn cael eu hadnabod fel heintiau a drosglwyddir yn rhywiol.<\/p>\n<p>Mae rhyw diogelach yn cynnwys defnyddio condomau yn gywir bob tro y byddwch yn cael rhyw. Os nad ydych yn defnyddio condom rydych yn wynebu perygl uwch o gael haint a drosglwyddir yn rhywiol. Mae condomau gwrywaidd a benywaidd ar gael.<\/p>\n<p>Nid oes angen i chi gael sawl partner rhywiol i gael haint.<\/p>\n<p>Gellir trin y rhan fwyaf o&#8217;r heintiau a drosglwyddir yn rhywiol ac fel arfer mae&#8217;n well os gellir dechrau&#8217;r driniaeth cyn gynted \u00e2 phosibl.<\/p>\n<p>Os byddwch yn profi unrhyw un o&#8217;r canlynol dylech geisio cyngor:<\/p>\n<ul>\n<li>Rhedlif anarferol o&#8217;r wain<\/li>\n<li>Rhedlif o&#8217;r pidyn<\/li>\n<li>Poen neu losgi pan fyddwch yn pasio d\u0175r<\/li>\n<li>Cosi, brech, lympiau neu bothelli o amgylch yr organau cenhedlu neu&#8217;r anws<\/li>\n<li>Poen a\/neu waedu yn ystod rhyw<\/li>\n<li>Gwaedu rhwng misglwyf (gan gynnwys merched sy&#8217;n defnyddio atal cenhedlu hormonaidd)<\/li>\n<li>Gwaedu ar \u00f4l cael rhyw<\/li>\n<li>Poen yn y ceilliau<\/li>\n<li>Poen yng ngwaelod yr abdomen<\/li>\n<li>Yn aml nid oes symptomau ar gyfer Clamydia<\/li>\n<\/ul>\n<p>Os ydych chi wedi cael rhyw heb ddefnyddio condom rydych mewn perygl. Gallwch gael gwiriad iechyd gan y Gwasanaeth Iechyd Rhywiol. Mae&#8217;r gwasanaeth yn gyfrinachol.<\/p>\n<p><iframe loading=\"lazy\" title=\"Young Person&#039;s Clinic - What&#039;s It All About?\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/W7K7TwHHinQ?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe><\/p>\n<p><strong>Clinigau Iechyd Rhywiol<\/strong><\/p>\n<p>Y clinigau iechyd rhywiol yn Wrecsam yw&#8217;r Siop Wybodaeth ac Ysbyty Maelor Wrecsam. Mae&#8217;r Siop Wybodaeth yn darparu cyngor iechyd rhywiol i bobl ifanc 25 oed ac iau ar sail galw heibio. Maent yn cynnig dulliau atal cenhedlu amrywiol megis condomau, y bilsen, brechiad a&#8217;r mewnblaniad; nid yw&#8217;r Siop Wybodaeth yn profi am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol ond gallwn ddarparu gwybodaeth. Maent hefyd yn cynnig profion Beichiogrwydd, gofynnwch i aelod o staff.<\/p>\n<p>Mae Ysbyty Maelor Wrecsam yn cynnig ystod o wasanaethau o brofion ceg y groth, profion beichiogrwydd i&#8217;r gwahanol fathau o ddulliau atal cenhedlu sydd ar gael. Mae&#8217;r ysbyty hefyd yn darparu profion ar gyfer heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a allai olygu bod angen darparu sampl d\u0175r, prawf gwaed neu gymryd swab. Ni ellir galw heibio gan y cynhelir clinigau penodol ar ddiwrnodau penodol, felly gwnewch apwyntiad.<\/p>\n<p>Gellir trefnu apwyntiad i dynnu\/gosod mewnblaniad.<\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/www.wales.nhs.uk\/sitesplus\/861\/page\/51457\">Clinigau Iechyd Rhyw Cymru\u00a0<\/a><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<hr \/>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-6276 aligncenter\" src=\"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2017\/01\/Info-generaljpeg-300x106.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"106\" srcset=\"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2017\/01\/Info-generaljpeg-300x106.jpg 300w, https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2017\/01\/Info-generaljpeg-768x272.jpg 768w, https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2017\/01\/Info-generaljpeg.jpg 886w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/p>\n<p><strong>Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i&#8217;r Siop INFO neu cysylltwch \u00e2 ni ar 01978 295600 \/ <a href=\"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/ask-wrex\/\">Neges wib<\/a>. \u00a0Gadewch neges a byddwn yn cysylltu \u00e2 chi cyn gynted \u00e2 phosib. <\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Ydych chi&#8217;n meddwl fod gennych chi Haint a Drosglwyddir yn Rhywiol? Gall rhai heintiau gael eu trosglwyddo i berson arall drwy ryw gweiniol, rhyw rhefrol neu ryw geneuol. Mae heintiau&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":6398,"parent":6279,"menu_order":2,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"page-info.php","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"class_list":["post-6396","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6396","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6396"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6396\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6949,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6396\/revisions\/6949"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6279"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6398"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6396"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}