{"id":6444,"date":"2017-04-19T16:28:21","date_gmt":"2017-04-19T16:28:21","guid":{"rendered":"http:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/?page_id=6444"},"modified":"2017-05-12T12:25:17","modified_gmt":"2017-05-12T12:25:17","slug":"dyled","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/info\/money\/dyled\/","title":{"rendered":"Dyled"},"content":{"rendered":"<h3><strong>Dyled yw pan mae arnoch arian i rywun. Gall materion dyled ac arian gael eu rhannu\u2019n ddau gategori, problemau rheoli arian a phroblemau dyled.\u00a0 <\/strong><\/h3>\n<p><strong>Problem rheoli arian \u2013 dyma pryd mae gennych ddigon o incwm ar gyfer gwariant hanfodol (bwyd, teithio, rhent\/morgais ac ati)<\/strong> ac ymrwymiadau credyd ond rydych yn gwario gormod ar eitemau nad ydynt yn hanfodol.\u00a0\u00a0 Yn yr amgylchiadau hyn, rydych angen cyngor cyllido ac angen lleihau faint rydych yn ei wario ar eitemau dewisol fel dillad, bwyta allan ac ati.<\/p>\n<p><strong>Problem dyled \u2013 dyma lle nad oes gennych ddigon o incwm ar gyfer gwariant hanfodol ac ymrwymiadau credyd misol.\u00a0 <\/strong>Yn yr amgylchiadau hyn, byddwch angen gofyn am gyngor gan elusen dyled cenedlaethol (fel Llinell Ddyled Genedlaethol neu Sefydliad Cyngor Dyled), a fydd yn argymell yr ateb mwyaf priodol i\u2019ch sefyllfa chi (pa un a yw hynny yn Orchymyn Gweinyddiaeth, Gorchymyn Cymorth Dyled, Rheoli Dyled, Methdaliad, Rhyddhau Ecwiti neu Drefniant Gwirfoddol Unigol er enghraifft \u2013 mae\u2019n gymhleth iawn ac mae\u2019r ateb sy\u2019n iawn i chi yn dibynnu ar faint o arian sydd arnoch chi, faint sydd gennych ar gael i dalu yn \u00f4l i\u2019ch credydwyr bob mis a pha un a oes gennych unrhyw asedau y dymunwch eu diogelu, fel eich cartref).<\/p>\n<p>Bydd y rhan fwyaf o bobl mewn dyled ar ryw adeg yn ystod eu bywyd, pa un a yw\u2019n arian sydd arnoch am fil cerdyn credyd neu fenthyciad myfyriwr.<\/p>\n<p>Mae dyled yn broblem os oes arnoch arian nad ydych yn gallu ei dalu yn \u00f4l.<\/p>\n<p>Os ydych mewn dyled na allwch ad-dalu, y peth pwysicaf yw peidio cynhyrfu a pheidio anwybyddu\u2019r broblem \u2013 ni fydd yn diflannu.<\/p>\n<p>Os oes gennych broblemau gyda dyled, dylech ddelio gyda nhw gynted \u00e2 phosibl.\u00a0 Mae yna bobl sy\u2019n gallu eich helpu a digon o ffyrdd i\u2019ch helpu i leihau eich dyled.<\/p>\n<p>Os ydych mewn dyled, siaradwch gyda rhywun.\u00a0 Efallai y byddai\u2019n helpu i ddweud wrth aelod o\u2019r teulu neu ffrind a allai eich helpu neu gallech siarad gyda Cyngor ar Bopeth am gyngor cyfrinachol am ddim.<\/p>\n<p>Mae yna wahanol fathau o ddyled, yn dibynnu ar eu blaenoriaeth i dalu\u2019r arian yn \u00f4l.<\/p>\n<p><iframe loading=\"lazy\" title=\"Should you save or pay off debts? - The Money Advice Service\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/EhbIlep7PEY?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe><\/p>\n<p>Ymwadiad.<\/p>\n<p>Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae\u2019r wybodaeth yn berthnasol iawn i\u2019r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.<\/p>\n<h3>Dyledion blaenoriaeth<\/h3>\n<p>Dyledion blaenoriaeth yw\u2019r dyledion y gall y credydwyr (y bobl sydd arnoch chi arian iddynt) gymryd y camau cyfreithiol mwyaf yn eich erbyn os nad ydych yn ad-dalu\u2019r arian. Mae&#8217;r rhain yn cynnwys:<\/p>\n<p>Ad-daliadau morgais \u2013 gall y benthycwr morgais gymryd camau llys i feddiannu eich cartref<\/p>\n<p>Rhent \u2013 gall y landlord eich troi chi allan os nad ydych wedi talu\u2019r rhent.<\/p>\n<p>Treth incwm a TAW \u2013 gallwch gael eich gwneud yn fethdalwr neu gael eich carcharu am beidio talu treth incwm neu TAW<\/p>\n<p>Dirwyon, fel dirwyon llys ynadon am droseddau traffig.\u00a0 Os nad yw\u2019r rhain yn cael eu talu, gall y llys ddefnyddio\u2019r beili i ailfeddiannu eich nwyddau. Os, yn dilyn hyn, eich bod yn parhau ag \u00f4l-ddyledion heb eu talu, gallwch gael eich anfon i\u2019r carchar<\/p>\n<p>Cynhaliaeth, cynnal plant neu dreth cyngor neu drethi. Os nad yw\u2019r rhain yn cael eu talu, gall llys ddefnyddio\u2019r beili i ailfeddiannu eich nwyddau. Os, yn dilyn hyn, eich bod yn parhau ag \u00f4l-ddyledion heb eu talu, gallwch gael eich anfon i\u2019r carchar<\/p>\n<p>Dyledion nwy, trydan ac olew \u2013 os na thelir y biliau hyn bydd y cyflenwad yn cael ei ddigysylltu<\/p>\n<p>Hur bwrcas (a elwir weithiau yn \u2018werthiant amodol&#8217;) yn ddyled blaenoriaeth\u00a0 os yw am eitem hanfodol, er enghraifft, os ydych wedi prynu car ar hur bwrcas ac angen y car y fynd i\u2019r ysgol<\/p>\n<p>Mae\u2019n bwysig talu unrhyw ddyledion blaenoriaeth yn gyntaf cyn unrhyw ddyledion nad ydynt yn flaenoriaeth<\/p>\n<h3>Dyledion nad ydynt yn flaenoriaeth<\/h3>\n<p>Mae dyledion nad ydynt yn flaenoriaeth yn cynnwys:<\/p>\n<p>\u00d4l-ddyledion cardiau credyd a chardiau siop<\/p>\n<p>\u00d4l-ddyledion catalog<\/p>\n<p>Gorddrafft a benthyciadau banc<\/p>\n<p>Gordaliadau budd-daliadau<\/p>\n<p>Hur bwrcas (a elwir weithiau yn \u2018werthiant amodol&#8217;) yn ddyled heb flaenoriaeth\u00a0 os yw am eitem nad ydynt yn hanfodol fel teledu<\/p>\n<p>Arian a fenthycwyd gan deulu neu ffrindiau<\/p>\n<p>Er y gall y credydwyr dyledion nad ydynt yn flaenoriaeth ddwyn achos llys yn eich erbyn os nad ydych yn talu ac efallai y byddant yn anfon y beili, ni ellir eich anfon i\u2019r carchar<\/p>\n<p>Mae gan y <a href=\"https:\/\/www.moneyadviceservice.org.uk\/cy\"><u>Gwasanaeth Cyngor Arian<\/u><\/a> adrannau ardderchog ar ddyled a benthyca gan gynnwys:<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.moneyadviceservice.org.uk\/en\/articles\/where-to-go-to-get-free-debt-advice\">Lle i fynd i gael cyngor dyledion am ddim<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.moneyadviceservice.org.uk\/en\/articles\/how-to-prioritise-your-debts\">Sut i flaenoriaethu eich dyled<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.moneyadviceservice.org.uk\/en\/articles\/help-if-youre-struggling-with-debt\">Cymorth os ydych yn cael problemau gyda dyled<\/a><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.moneyadviceservice.org.uk\/en\/articles\/quick-and-easy-debt-health-check\">Archwiliad iechyd dyled sydyn a hawdd<\/a><\/p>\n<p>Gallwch gysylltu \u00e2\u2019r Gwasanaeth Cyngor Arian ar:<\/p>\n<p><a href=\"tel:+448001387777\">0800 138 7777<\/a> (Saesneg)<\/p>\n<p><a href=\"tel:+448001380555\">0800 138 0555<\/a> (Cymraeg)<\/p>\n<p>Typetalk: <a href=\"tel:1800103005005000\">18001 0300 500 5000<\/a><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<hr \/>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-6276 aligncenter\" src=\"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2017\/01\/Info-generaljpeg-300x106.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"106\" srcset=\"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2017\/01\/Info-generaljpeg-300x106.jpg 300w, https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2017\/01\/Info-generaljpeg-768x272.jpg 768w, https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2017\/01\/Info-generaljpeg.jpg 886w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/p>\n<p><strong>Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i&#8217;r Siop INFO neu cysylltwch \u00e2 ni ar 01978 295600 \/ <a href=\"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/ask-wrex\/\">Neges wib<\/a>. \u00a0Gadewch neges a byddwn yn cysylltu \u00e2 chi cyn gynted \u00e2 phosib. <\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dyled yw pan mae arnoch arian i rywun. Gall materion dyled ac arian gael eu rhannu\u2019n ddau gategori, problemau rheoli arian a phroblemau dyled.\u00a0 Problem rheoli arian \u2013 dyma pryd&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":6445,"parent":359,"menu_order":1,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"page-info.php","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"class_list":["post-6444","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6444","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6444"}],"version-history":[{"count":4,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6444\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6965,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6444\/revisions\/6965"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/359"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6445"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6444"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}