{"id":6485,"date":"2017-04-20T12:22:16","date_gmt":"2017-04-20T12:22:16","guid":{"rendered":"http:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/?page_id=6485"},"modified":"2017-05-11T15:18:34","modified_gmt":"2017-05-11T15:18:34","slug":"straen-gorbryder-ac-anhwylder-panig","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/info\/mental-health\/straen-gorbryder-ac-anhwylder-panig\/","title":{"rendered":"Straen, Gorbryder ac Anhwylder Panig"},"content":{"rendered":"<h3>Bydd pawb yn gorbryderu ar ryw adeg. Mae pob un ohonom yn ei deimlo pan fyddwn yn dod wyneb yn wyneb \u00e2 sefyllfaoedd bygythiol neu anodd. Gall effeithio ar rywun yn eu corff ac yn eu meddwl ac fe allai gael ei achosi gan boeni neu ofn.<\/h3>\n<p>Bydd 1 o bob 10 yn profi gorbryder neu ffobia ar ryw adeg yn eu hoes.<\/p>\n<p><iframe loading=\"lazy\" title=\"Anxiety | Talking about mental health - Episode 2\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/lKWoIwgiLRk?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe><\/p>\n<p>Ymwadiad.<\/p>\n<p>Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae\u2019r wybodaeth yn berthnasol iawn i\u2019r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.<\/p>\n<p>Fel arfer, gall ofn a phryder fod yn ddefnyddiol wrth ein helpu i osgoi sefyllfaoedd peryglus, i&#8217;n cadw ar flaenau ein traed ac i&#8217;n cymell i fynd i&#8217;r afael \u00e2 phroblemau. Er hynny, os yw\u2019r teimladau\u2019n dod yn rhy gryf neu\u2019n para\u2019n rhy hir, fe allent ein rhwystro rhag gwneud yr hyn yr hoffem ei wneud, gan wneud ein bywydau&#8217;n ddiflas.<\/p>\n<p>Dyma rai o symptomau rhai sydd dan straen neu sy\u2019n orbryderus:<\/p>\n<ul>\n<li>Poeni drwy\u2019r amser<\/li>\n<li>Teimlo\u2019n flinedig<\/li>\n<li>Methu \u00e2 chanolbwyntio<\/li>\n<li>Teimlo&#8217;n flin<\/li>\n<li>Cysgu\u2019n wael<\/li>\n<li>Profi crychguriadau\u2019r galon<\/li>\n<li>Chwysu llawer<\/li>\n<li>Cyhyrau\u2019n brifo ac mewn poen<\/li>\n<li>Anadlu\u2019n drwm<\/li>\n<li>Penysgafnder<\/li>\n<li>Teimlo\u2019n wannaidd<\/li>\n<li>Camdreuliad<\/li>\n<li>Dolur rhydd<\/li>\n<\/ul>\n<p><iframe loading=\"lazy\" title=\"Panic attacks | Talking about mental health - Episode 1\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/9YaS_4tXBNU?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe><\/p>\n<p>Ymwadiad.<\/p>\n<p>Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae\u2019r wybodaeth yn berthnasol iawn i\u2019r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.<\/p>\n<p>Mae pwl o banig yn bwl sydyn o ofn a phryder mawr. Ymysg symptomau pwl o banig, mae:<\/p>\n<ul>\n<li>Mwy o ymwybyddiaeth o guriad y galon<\/li>\n<li>Chwysu<\/li>\n<li>Crynu neu ysgwyd<\/li>\n<li>Ymdeimlad o dagu, diffyg gwynt neu fygu<\/li>\n<li>Poen neu anesmwythder yn y frest<\/li>\n<li>Teimlo\u2019n s\u00e2l neu boenau yn yr ystumog<\/li>\n<li>Ymdeimlad o afrealrwydd neu ddiffyg cyswllt \u00e2\u2019r hunan neu&#8217;r amgylchedd<\/li>\n<li>Penysgafnder, ansad neu&#8217;n wannaidd<\/li>\n<li>Ofn marw<\/li>\n<li>Diffyg teimlad neu binnau bach<\/li>\n<li>Iasau oer neu byliau o wres<\/li>\n<\/ul>\n<p>Gall s\u00f4n am y broblem gyda ffrindiau neu gyda\u2019r teulu fod o gymorth. Gallai dod o hyd i ffyrdd o ymlacio helpu i reoli gorbryder a straen \u2013 unrhyw beth, o lyfrau a DVDs hunangymorth hyd at ofyn am help proffesiynol.<\/p>\n<p>Gall meddyginiaeth helpu. Gallwch drafod gyda&#8217;ch meddyg teulu os ydych yn meddwl bod hynny\u2019n opsiwn i chi; efallai y byddwch yn cael eich atgyfeirio at feddyg arbenigol, sy\u2019n cael ei alw&#8217;n seiciatrydd.<\/p>\n<p>Cofiwch:<\/p>\n<ul>\n<li>S\u00f4n am eich teimladau<\/li>\n<li>Cadw\u2019n heini<\/li>\n<li>Bwyta\u2019n dda<\/li>\n<li>Cyfyngu faint o alcohol rydych yn ei yfed<\/li>\n<li>Treulio amser gyda\u2019ch teulu a\u2019ch ffrindiau<\/li>\n<li>Gofyn am help<\/li>\n<li>Cymryd seibiant<\/li>\n<li>Gwneud rhywbeth rydych yn dda am ei wneud<\/li>\n<li>Cadw\u2019n driw i chi\u2019ch hun<\/li>\n<li>Gofalu am eraill<\/li>\n<\/ul>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<hr \/>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-6276 aligncenter\" src=\"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2017\/01\/Info-generaljpeg-300x106.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"106\" srcset=\"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2017\/01\/Info-generaljpeg-300x106.jpg 300w, https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2017\/01\/Info-generaljpeg-768x272.jpg 768w, https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2017\/01\/Info-generaljpeg.jpg 886w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/p>\n<p><strong>Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i&#8217;r Siop INFO neu cysylltwch \u00e2 ni ar 01978 295600 \/ <\/strong><a href=\"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/ask-wrex\/\"><strong>Neges wib<\/strong><\/a><strong>. \u00a0Gadewch neges a byddwn yn cysylltu \u00e2 chi cyn gynted \u00e2 phosib. <\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Bydd pawb yn gorbryderu ar ryw adeg. Mae pob un ohonom yn ei deimlo pan fyddwn yn dod wyneb yn wyneb \u00e2 sefyllfaoedd bygythiol neu anodd. Gall effeithio ar rywun&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":6640,"parent":293,"menu_order":3,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"page-info.php","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"class_list":["post-6485","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6485","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6485"}],"version-history":[{"count":5,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6485\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":6940,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6485\/revisions\/6940"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/293"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6640"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6485"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}