{"id":6653,"date":"2017-04-24T11:40:43","date_gmt":"2017-04-24T11:40:43","guid":{"rendered":"http:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/?page_id=6653"},"modified":"2021-06-18T08:11:05","modified_gmt":"2021-06-18T08:11:05","slug":"cyffuriau-alcohol-ac-ysmygu","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/info\/drink-drugs-smoking\/cyffuriau-alcohol-ac-ysmygu\/","title":{"rendered":"Cyffuriau Ac Alcohol"},"content":{"rendered":"<p>Os oes gennych unrhyw faterion, ymholiadau neu bryderon yngl\u0177n \u00e2 defnyddio cyffuriau neu sylweddau yna gallwch gysylltu \u00e2 Phrosiect Cyffuriau ac Alcohol Pobl Ifanc <a href=\"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/\">In2change<\/a>.<\/p>\n<p>Neu mae yna wefannau gwych a llinellau cymorth all roi gwybodaeth i chi ar gyffuriau a sylweddau.<\/p>\n<h3>Gwasanaethau Cefnogi Cenedlaethol<\/h3>\n<p><a href=\"http:\/\/www.talktofrank.com\/\">TalktoFrank<\/a> \u2013 Mae\u2019r Gwasanaeth Addysgu am Gyffuriau Cenedlaethol yn cynnig gwasanaeth cynghori cyfrinachol ar gyffuriau.\u00a0 Mae\u2019n cynnig llawer o wybodaeth ar sylweddau (gan gynnwys rhai newydd), mae\u2019n dweud wrthych beth yw\u2019r peryglon, sut y gallwch aros yn ddiogel a beth i&#8217;w wneud os oes angen cymorth a chefnogaeth arnoch. \u00a0 Neu gallwch ffonio 03001236600.\u00a0 Mae\u2019n bosibl i chi gael sgwrs fyw ar y wefan rhwng 2pm-6pm<\/p>\n<p>Llinell gymorth yng Nghymru yw DAN 247, <a href=\"http:\/\/dan247.org.uk\/Default_Wales.asp\">llinell gymorth 24 awr ar gyffuriau ac alcohol<\/a> a gellir cysylltu \u00e2 hwn drwy Radff\u00f4n: 0808 808 2234\u00a0neu drwy anfon neges destun gyda\u2019r gair DAN i: 81066<\/p>\n<p>Gwefan i helpu i wrthsefyll camdriniaeth alcohol a chyffuriau yw <a href=\"http:\/\/mentoruk.org.uk\/\">Mentor.org<\/a>.<\/p>\n<h3>Canabis<\/h3>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-7090\" src=\"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2017\/04\/Cannabis-Cartoon-300x269.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"269\" srcset=\"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2017\/04\/Cannabis-Cartoon-300x269.jpg 300w, https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2017\/04\/Cannabis-Cartoon.jpg 450w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/p>\n<p>Y CYFFUR ANGHYFREITHIOL SY\u2019N CAEL EI DDEFNYDDIO FWYAF YN Y DEYRNAS UNEDIG &#8211; OND COFIWCH, DIM POB PERSON IFANC SYDD YN EI DDEFNYDDIO.<\/p>\n<p>Hwn ydi\u2019r cyffur anghyfreithlon sy\u2019n cael ei ddefnyddio fwyaf gan bobl ifanc ac mae ganddo sawl enw, gan gynnwys <em>grass<\/em>, <em>ganja<\/em>, <em>skunk<\/em> a <em>weed<\/em>. Mae pobl ifanc yn cymryd canabis drwy ei ysmygu gyda thybaco a gwneud sigar\u00e9t o\u2019r enw <em>joint<\/em> neu ddefnyddio potel blastig i wneud <em>bong<\/em>. Mae pobl ifanc hefyd yn defnyddio canabis i wneud cacennau \u2018gofod\u2019.<\/p>\n<p>Pam bod pobl ifanc yn cymryd canabis medde chi? Yr ateb yn syml ydi i gael hwyl, ymlacio, i deimlo\u2019n benfeddw ac i anghofio am bethau. Fe allwch chi deimlo\u2019r holl bethau yma ond mae pobl ifanc hefyd yn s\u00f4n am deimlo\u2019n lledwyn pan fyddan nhw wedi cael gormod o ganabis neu wedi yfed alcohol neu heb fwyta llawer cynt. Pan fyddwch chi\u2019n teimlo\u2019n lledwyn does arnoch chi ddim eisiau siarad, rydych chi&#8217;n chwysu ac yn teimlo&#8217;n oer ac yn llaith, ac weithiau byddwch chi&#8217;n chwydu. Yn aml iawn bydd eich ffrindiau yn tynnu lluniau ohonoch chi ac yn eu rhoi ar y cyfryngau cymdeithasol.<\/p>\n<p>Mae pobl ifanc hefyd yn s\u00f4n am gael pen mawr y diwrnod wedyn a theimlo\u2019n ansicr ynghylch pethau. Mae hynny hefyd yn gwneud i chi deimlo\u2019n ddiymdrech a swrth, a gall cymryd canabis yn rheolaidd arwain at ddiffyg cymhelliant sy&#8217;n effeithio ar eich bywyd teuluol, ysgol a gwaith.<\/p>\n<p>Yn ystod y ddegawd ddiwethaf mae canabis wedi mynd yn gryfach ac yn gryfach, a\u2019r hyn sy\u2019n bryder mawr i ni ydi\u2019r paranoia a\u2019r gorbryder y mae pobl ifanc yn dweud wrthym ni amdano pan fyddan nhw\u2019n cymryd canabis. Mae\u2019r paranoia a\u2019r gorbryder hwn yn gallu achosi llawer o broblemau, fel colli cof a phyliau o banig. Mae pobl sy\u2019n cymryd canabis hefyd yn pellhau oddi wrth ffrindiau nad ydyn nhw\u2019n ysmygu canabis.<\/p>\n<p>Mae cymryd canabis am fisoedd lawer yn cynyddu&#8217;r perygl o gyfnodau seicotig fel sgitsoffrenia ac mae mwy a mwy o bobl ifanc yn derbyn gwasanaethau iechyd meddwl oherwydd hyn.<\/p>\n<p>Yn olaf, mae llawer o bobl ifanc yn credu bod defnyddio canabis yn gyfreithlon. Dydi hyn ddim yn wir. Mae\u2019n gyffur dosbarth B sy\u2019n gallu arwain at ddelio gyda\u2019r gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid neu, yn dibynnu ar eich oed, at Hysbysiad Cyhoeddus am Anhrefn. Gallwch dderbyn 5 mlynedd o garchar am feddiant ac 14 mlynedd am gyflenwi.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Os hoffech chi fwy o wybodaeth ewch i <a href=\"http:\/\/www.talktofrank.com\/\">www.talktofrank.com<\/a> neu cysylltwch ag in2change, sef gwasanaeth cyffuriau ac alcohol Wrecsam ar gyfer pobl ifanc.<\/p>\n<h3><\/h3>\n<h3><\/h3>\n<h3>Defnyddio Canabis<\/h3>\n<p>Yn In2change rydym yn gweithio gyda phobl ifanc gan godi ymwybyddiaeth o risgiau a chanlyniadau defnyddio Canabis.\u00a0 Mae llawer o fythau yn cael eu cylchdroi yn ymwneud \u00e2 defnyddio canabis.\u00a0 Dyma fideo y mae In2change yn ei ddefnyddio i ddangos yr effeithiau byrdymor a hirdymor o ddefnyddio canabis.\u00a0 Gyda diolch i Mac.org.uk.<\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/www.mac-uk.org\/cannabis-film\/\">http:\/\/www.mac-uk.org\/cannabis-film\/<\/a><\/p>\n<h3>Alcohol<\/h3>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-7092\" src=\"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2017\/04\/alcohol-drunk-girl-300x211.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"211\" srcset=\"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2017\/04\/alcohol-drunk-girl-300x211.jpg 300w, https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2017\/04\/alcohol-drunk-girl.jpg 450w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/p>\n<p>Yn<a href=\"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/info\/drink-drugs-smoking\/in2change\/\"> In2change<\/a> (dolen i\u2019r dudalen) rydym yn gweithio gyda phobl ifanc gan godi ymwybyddiaeth o risgiau a chanlyniadau defnyddio alcohol.<\/p>\n<p>Dyma rai o&#8217;r ffeithiau diweddaraf a&#8217;r risgiau yn ymwneud \u00e2 defnyddio alcohol.<\/p>\n<p>Sicrhewch eich bod yn cael yr apiau rhyngweithiol i ddysgu mwy am effeithiau alcohol a sut y gall effeithio ar eich bywyd.<\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.drinkaware.co.uk\/tools\/app\/\">https:\/\/www.drinkaware.co.uk\/tools\/app\/<\/a><\/p>\n<h3>Sbeicio Diodydd<\/h3>\n<p>Mae Fixers UK wedi gwneud fideo ar y peryglon o sbeicio diodydd alcoholig a\u2019r risgiau o brofi hynny\u2019n digwydd i chi.\u00a0 Gwyliwch y fideo yma.<\/p>\n<p><iframe loading=\"lazy\" title=\"Drink Spiking Ad\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/tnxW8RxfPVI?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe><\/p>\n<p>Ymwadiad.<\/p>\n<p>Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae\u2019r wybodaeth yn berthnasol iawn i\u2019r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.<\/p>\n<h3>Alcohol a Hyder?<\/h3>\n<p>Mae Fixers UK wedi gwneud fideo ar beth all ddigwydd pan fo pobl ifanc yn yfed alcohol i gynyddu eu hyder.<\/p>\n<p><iframe loading=\"lazy\" title=\"Monster Hangover - Confidence\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/NK0r22IzhnI?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe><\/p>\n<p>Ymwadiad.<\/p>\n<p>Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae\u2019r wybodaeth yn berthnasol iawn i\u2019r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.<\/p>\n<h3>Alcohol a Straen!<\/h3>\n<p>Mae Fixers UK wedi gwneud fideo ar beth all ddigwydd pan fo pobl ifanc yn yfed alcohol i gael gwared ar straen.<\/p>\n<p><iframe loading=\"lazy\" title=\"Monster Hangover - Stress\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/pISazUjH3VI?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe><\/p>\n<p>Ymwadiad.<\/p>\n<p>Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae\u2019r wybodaeth yn berthnasol iawn i\u2019r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.<\/p>\n<h3>Risgiau a Chanlyniadau<\/h3>\n<p>Yn In2change rydym yn defnyddio\u2019r fideo hwn i dangos i bobl ifanc y risgiau a\u2019r canlyniadau o ddefnyddio alcohol.\u00a0 Gyda diolch i Ganolfan Lifeline Blackburn<\/p>\n<p><iframe loading=\"lazy\" title=\"Alcohol Awareness Public Health Campaign: &quot;Totally Wasted&quot;\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/p7LiYiNBtyM?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe><\/p>\n<p>Ymwadiad.<\/p>\n<p>Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae\u2019r wybodaeth yn berthnasol iawn i\u2019r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.<\/p>\n<p>Ecstasi (MDMA)<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-7093\" src=\"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2017\/04\/Ecstasy-word-cloud-300x200.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"200\" srcset=\"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2017\/04\/Ecstasy-word-cloud-300x200.jpg 300w, https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2017\/04\/Ecstasy-word-cloud.jpg 450w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Fel rheol mae pobl yn cymryd ecstasi (neu MDMA neu MD) ar ffurf tabled neu bowdr. Hwn ydi &#8216;cyffur parti\u2019 sawl person ifanc sy\u2019n cymryd cyffuriau ac mae\u2019n eich gadael mewn stad ewfforig, cariadus a hyderus. Ond, yn union fel pob cyffur arall, mae yna beryglon.<\/p>\n<p>Yn ystod y 15 mlynedd ddiwethaf mae 40 person y flwyddyn wedi marw ar \u00f4l cymryd y cyffur. Ni allwch fyth fod yn si\u0175r o gynnwys y dabled neu&#8217;r powdr. Dydi rhai pobl ddim gwaeth ar \u00f4l ei gymryd ond, i eraill, mae\u2019r canlyniadau yn gallu bod yn drychinebus. Mae\u2019r cyffur yn effeithio ar bobl mewn ffyrdd gwahanol.<\/p>\n<p>Os ydych chi\u2019n cymryd y cyffur (hanner tabled ar y tro cofiwch) mae&#8217;n hawdd iawn gorboethi a dihydradu. Mi fyddwch chi\u2019n sychedig, ond peidiwch ag yfed alcohol \u2013 yfwch dd\u0175r neu ddiod heb alcohol. Wedi dweud hynny, peidiwch ag yfed mwy na pheint bob awr, mae hyn yr un mor beryglus \u00e2 pheidio ag yfed digon.<\/p>\n<p>Gall sobri ar \u00f4l cymryd y cyffur fod yn brofiad annymunol iawn, a gall wneud i chi deimlo\u2019n flinedig ac isel iawn. Yn y tymor hir, gall defnyddwyr ddioddef o golli\u2019r cof, iselder a gorbryder.<\/p>\n<p>Mae ecstasi yn gyffur dosbarth A. Os ydych chi\u2019n cael ei dal gydag ecstasi yn eich meddiant gallwch dderbyn hyd at 7 mlynedd yn y carchar. Os ydych chi\u2019n cael ei dal yn cyflenwi\u2019r cyffur, gallwch wynebu hyd at weddill eich oes yn y carchar yn ogystal \u00e2 dirwy anghyfyngedig.<\/p>\n<p>Wrth reswm, rydym ni\u2019n argymell pobl ifanc i beidio \u00e2 chymryd unrhyw gyffur ond, os ydych chi yn penderfynu cymryd cyffuriau, cofiwch y cyngor hwn:<\/p>\n<ul>\n<li>Cymerwch y cyffur mewn lle diogel a chyda phobl rydych chi\u2019n ymddiried ynddyn nhw \u2013 peidiwch byth \u00e2 chymryd cyffuriau ar eich pen eich hun!<\/li>\n<li>Byddwch yn ofalus gyda\u2019r dos<\/li>\n<li>Rhowch amser i\u2019r cyffur weithio cyn cymryd mwy<\/li>\n<li>Peidiwch \u00e2 chymysgu cyffur gydag alcohol neu gyffur arall<\/li>\n<li>Peidiwch \u00e2 rhannu offer, hyd yn oed os ydych chi\u2019n snwffian<\/li>\n<\/ul>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Os hoffech chi fwy o wybodaeth ewch i <a href=\"http:\/\/www.talktofrank.com\/\">www.talktofrank.com<\/a><u> neu cysylltwch ag in2change, gwasanaeth cyffuriau ac alcohol Wrecsam ar gyfer pobl ifanc.<\/u><\/p>\n<h3>LSD<\/h3>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-7094\" src=\"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2017\/04\/LSD-Head-300x260.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"260\" srcset=\"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2017\/04\/LSD-Head-300x260.jpg 300w, https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2017\/04\/LSD-Head.jpg 450w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Pan fyddwch chi dan ddylanwad LSD neu \u2018asid\u2019, cyffur rhithbair cryf iawn, mae\u2019ch canfyddiad o\u2019r hyn rydych chi\u2019n ei weld a\u2019i glywed yn newid ac mae lliwiau a goleuadau yn llachar iawn a\u2019ch synhwyrau yn cryfhau.<\/p>\n<p>Trip ydi\u2019r gair sy\u2019n cael ei ddefnyddio ar gyfer bod dan ddylanwad LSD ac fel pob cyffur arall mae yna beryglon sylweddol ynghlwm wrth ei gymryd. Gall yr hyn sy\u2019n digwyddi i chi ar \u00f4l cymryd LSD ddibynnu ar eich hwyliau ar y pryd. Dydych chi ddim yn gallu dweud pa mor gryf ydi\u2019r cyffur na than bryd y bydd yr effeithiau\u2019n para (rhwng 5 a 12 awr) felly, os ydych chi mewn hwyliau drwg pan rydych chi&#8217;n cymryd y cyffur, mae&#8217;n bosibl y bydd y profiad yn un annymunol iawn na fedrwch chi ei reoli.<\/p>\n<p>Gall LSD hefyd sbarduno problemau iechyd meddwl difrifol nad ydych chi wedi derbyn diagnosis ar eu cyfer.<\/p>\n<p>Os fyddwch chi byth mewn sefyllfa lle rydych chi neu\u2019ch ffrindiau wedi cymryd LSD ac yn profi effeithiau negyddol, gwnewch yn si\u0175r eich bod chi mewn lle tawel lle rydych chi\u2019n teimlo\u2019n saff a chyda cwmpeini.<\/p>\n<p>Mae LSD yn gyffur dosbarth A ac os cewch chi\u2019ch dal gyda\u2019r cyffur yn eich meddiant gallwch wynebu hyd at 7 mlynedd o garchar. Os cewch chi\u2019ch dal yn cyflenwi yna fe allwch chi gael eich dedfrydu i garchar am oes a gorfod talu dirwy.<\/p>\n<p>Os hoffech chi fwy o wybodaeth ewch i <a href=\"http:\/\/www.talktofrank.com\/\">www.talktofrank.com<\/a> neu cysylltwch ag in2change, gwasanaeth cyffuriau ac alcohol Wrecsam ar gyfer pobl ifanc.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<hr \/>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p><img loading=\"lazy\" decoding=\"async\" class=\"size-medium wp-image-6276 aligncenter\" src=\"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2017\/01\/Info-generaljpeg-300x106.jpg\" alt=\"\" width=\"300\" height=\"106\" srcset=\"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2017\/01\/Info-generaljpeg-300x106.jpg 300w, https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2017\/01\/Info-generaljpeg-768x272.jpg 768w, https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-content\/uploads\/sites\/3\/2017\/01\/Info-generaljpeg.jpg 886w\" sizes=\"auto, (max-width: 300px) 100vw, 300px\" \/><\/p>\n<p><strong>Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i&#8217;r Siop INFO neu cysylltwch \u00e2 ni ar 01978 295600 \/ <\/strong><a href=\"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/ask-wrex\/\"><strong>Neges wib<\/strong><\/a><strong>. \u00a0Gadewch neges a byddwn yn cysylltu \u00e2 chi cyn gynted \u00e2 phosib. <\/strong><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Os oes gennych unrhyw faterion, ymholiadau neu bryderon yngl\u0177n \u00e2 defnyddio cyffuriau neu sylweddau yna gallwch gysylltu \u00e2 Phrosiect Cyffuriau ac Alcohol Pobl Ifanc In2change. Neu mae yna wefannau gwych&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":6646,"parent":336,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"page-info.php","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"class_list":["post-6653","page","type-page","status-publish","has-post-thumbnail","hentry"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6653","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6653"}],"version-history":[{"count":12,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6653\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":7359,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/6653\/revisions\/7359"}],"up":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/336"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6646"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6653"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}