{"id":7019,"date":"2017-06-19T14:52:55","date_gmt":"2017-06-19T14:52:55","guid":{"rendered":"http:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/?p=7019"},"modified":"2017-06-20T10:10:33","modified_gmt":"2017-06-20T10:10:33","slug":"everyman-yn-hybu-mis-ymwybyddiaeth-o-ganser-ymysg-dynion","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/everyman-yn-hybu-mis-ymwybyddiaeth-o-ganser-ymysg-dynion\/","title":{"rendered":"Everyman yn Hybu Mis Ymwybyddiaeth o Ganser ymysg Dynion"},"content":{"rendered":"<p><strong>Beth yw\u2019r Mis Ymwybyddiaeth o Ganser ymysg Dynion gan Everyman?<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li>Yn \u00f4l arolwg a gynhaliwyd gan Everyman yn 2006 dim ond 28% o ddynion sy\u2019n archwilio eu ceilliau\u2019n rheolaidd er mwyn gweld a oes ganddynt ganser y gaill.<\/li>\n<li>Mae Ymgyrch Everyman yn tynnu sylw dynion a merched at ganser y gaill a\u2019r prostad.<\/li>\n<li>Mae\u2019r rhan fwyaf o ddynion sy\u2019n dioddef gan ganser y brostad yn h\u0177n na 60 oed ac anaml iawn y mae dynion o dan 50 oed yn cael y clefyd hwn.<\/li>\n<li>Mae canser y gaill yn effeithio ar ddynion ieuengach yn bennaf a dyma\u2019r math mwyaf cyffredin o ganser ymysg dynion rhwng 15 a 44 oed. \u00a0Mae e\u2019n dal i fod yn eithaf anghyffredin a byddwn ond yn cael bron 2,000 o achosion newydd y flwyddyn yn y DU.\u00a0 Ers 1978 mae amlder canser y gaill wedi cynyddu ddwywaith a rhagor, ond ni wyddys hyd yma beth yw\u2019r rhesymau dros hyn.\u00a0 Gellir iachau 99% o achosion canser y gaill os oes modd mynd i\u2019r afael \u00e2 hwy\u2019n brydlon; os caiff yr achosion eu trin mae\u2019r gyfradd iachau drwyddi draw yn uwch na 95%.\u00a0 Mae canser y gaill yn achosi oddeutu 70 marwolaeth bob blwyddyn yn y DU.<\/li>\n<\/ul>\n<p><iframe loading=\"lazy\" title=\"Testicular Cancer Foundation - &quot;Know Your Balls&quot; Campaign Video\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/wQw8MDeMXBw?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe><\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong>Ymwadiad.<\/p>\n<p>Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae\u2019r wybodaeth yn berthnasol iawn i\u2019r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.<\/p>\n<p><strong>Beth yw Canser y Gaill?<\/strong><\/p>\n<ul>\n<li>Mae canser y gaill yn datblygu o\u2019r tu mewn i\u2019r celloedd yn y ceilliau.\u00a0 Fel arfer bydd i\u2019w weld fel lwmp yn y gaill.<\/li>\n<li>Os bydd dynion yn archwilio eu hunain yn rheolaidd gall hynny eu cynorthwyo i weld, yn brydlon, a ydynt yn dioddef gan ganser.<\/li>\n<li>Os nad yw\u2019r canser yn cael ei drin mewn da bryd, gall celloedd y canser ymwahanu ac ymledu i\u2019r lymffgnotiau gerllaw neu i\u2019r organau eraill.<\/li>\n<li>Os bydd lwmp neu newid yn y ceilliau\u2019n cael ei weld, bydd y Meddyg Teulu yn trefnu prawf er mwyn gweld yn union a yw\u2019r lwmp yn ddiberygl neu\u2019n dyfiant o bosibl.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae\u2019r rhan fwyaf o lympiau\u2019n ddi-ganser ond mae\u2019n bwysig ichi gael archwiliad meddygol gan eich Meddyg Teulu er mwyn ichi fod yn dawel eich meddwl.<\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><strong>Ffactorau Perygl<\/strong><\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<ul>\n<li>Oed \u2013 yn amlach na pheidio dynion ifanc a chanol oed ac nid yr henoed, sy\u2019n dioddef gan ganser y gaill.\u00a0 Mae e\u2019n digwydd yn amlach ymysg dynion 15-44 oed nag ymysg neb arall.<\/li>\n<li>Gallai caill gudd, ar enedigaeth y person, olygu bod pump i ddeg gwaith rhagor o berygl iddo ddioddef canser y gaill.<\/li>\n<li>Hanes teulu \u2013 mae cael tad, brawd neu fab sydd wedi cael canser y gaill yn golygu y bydd llawer mwy o berygl i\u2019r person gael y clefyd hwn.<\/li>\n<li>Dioddef gan ganser y gaill o\u2019r blaen &#8211; os bydd y person eisoes wedi cael canser y gaill yna bydd mwy o berygl iddo gael canser yn y gaill arall hefyd.\u00a0 Fodd bynnag, anaml iawn y ceir canser yn y ddwy gaill.<\/li>\n<li>Hil ac ethnigrwydd \u2013 mae canser y gaill yn fwy cyffredin ymysg Cawcasiaid nag ymysg unrhyw bobloedd eraill.<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><strong>Arwyddion a Symptomau<\/strong><\/p>\n<p>Os byddwch yn archwilio eich hun yn rheolaidd bydd hynny\u2019n eich cynorthwyo i fod yn fwy ymwybodol o deimlad a maint arferol eich caill sy\u2019n golygu y byddwch yn sylwi, mewn da bryd, ar unrhyw beth na ddylai fod yno; lwmp yn un o\u2019r ceilliau, unrhyw chwydd i\u2019r gaill, y ceillgwd yn teimlo\u2019n drwm; poen mud yn yr abdomen neu gesail y forddwyd, hylif yn cronni\u2019n sydyn yn y ceillgwd; rhan uchaf y frest yn chwyddo neu\u2019n dyner i\u2019w chyffwrdd.\u00a0 Os bydd gennych unrhyw un o\u2019r symptomau hyn, peidiwch ag oedi gan obeithio y byddant yn diflannu &#8211; ewch i weld eich meddyg ar unwaith er mwyn cael archwiliad.\u00a0 Bydd y rhan fwyaf o lympiau\u2019n ddi-ganser ond cyntaf yn y byd y cewch chi wybod beth yw beth, cyntaf yn y byd y cewch chi unrhyw driniaeth angenrheidiol.\u00a0 Byddwch yn fwy tebygol o gael gwell canlyniad hefyd.<\/p>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><strong>Diagnosis a Thriniaeth<\/strong><\/p>\n<p>Os yw\u2019ch meddyg o\u2019r farn y gallech chi fod yn dioddef gan ganser y gaill, yna mae e\u2019n debygol o argymell un neu ragor o\u2019r dewisiadau hyn:\u00a0 eich atgyfeirio at lawfeddyg; prawf gwaed; biopsi; pelydr-x; sganiad uwchsain.\u00a0 Diben y profion hyn yn y lle cyntaf yw cael gwybod a ydych chi\u2019n dioddef gan ganser y gaill ac yn ail, gweld yn union a yw\u2019r canser wedi ymledu ac, os ydyw, i ba raddau mae hynny wedi digwydd.\u00a0 Os ydych chi\u2019n dioddef gan ganser y gaill a\u2019i fod yn cael ei ganfod yn brydlon ac nad yw\u2019r canser wedi ymledu, bydd y driniaeth fel rheol yn ymwneud \u00e2 chael llawdriniaeth er mwyn cael gwared \u00e2\u2019r gaill ganseraidd.\u00a0 Os yw\u2019r canser wedi ymledu, bydd y driniaeth hon fel arfer yn cael ei dilyn gan driniaeth cemotherapi am dri i bedwar mis.<\/p>\n<p>Gall y driniaeth ar gyfer canser y gaill fod yn un ddwys iawn, ond ni fydd y rhan fwyaf o gleifion sy\u2019n cael iach\u00e2d llwyr ar \u00f4l canser y gaill, yn dioddef unrhyw sgil-effeithiau hirdymor ar \u00f4l y driniaeth.\u00a0 Yn \u00f4l pob tebyg bydd eich ffrwythlondeb a\u2019ch bywyd rhywiol yn cael adferiad llwyr ar \u00f4l i\u2019r driniaeth ddod i ben.<\/p>\n<p>Os bydd rhaid cael gwared ag un o\u2019ch ceilliau dylech gael y cynnig canlynol; sef gosod un prosthetig yn ei lle.\u00a0 Bydd y gaill iach arall yn tueddu i gynhyrchu digonedd o sberm i wneud iawn am y golled.<\/p>\n<p>Hunanarchwiliad am Ganser y Gaill<\/p>\n<p><iframe loading=\"lazy\" title=\"Testicular Cancer Self-Exam \u2013 Testicular Cancer Foundation\" width=\"500\" height=\"281\" src=\"https:\/\/www.youtube.com\/embed\/OaVloOTC1Yo?feature=oembed\" frameborder=\"0\" allow=\"accelerometer; autoplay; clipboard-write; encrypted-media; gyroscope; picture-in-picture; web-share\" referrerpolicy=\"strict-origin-when-cross-origin\" allowfullscreen><\/iframe><\/p>\n<p>Ymwadiad.<\/p>\n<p>Ymddiheurwn fod y fideo hwn yn uniaith Saesneg, mae\u2019r wybodaeth yn berthnasol iawn i\u2019r adran hon ac yn hynod ddefnyddiol.<\/p>\n<ul>\n<li>Dylech gymryd y camau rhwydd hyn yn rheolaidd.\u00a0 Ar \u00f4l cael bath neu gawod gynnes mae croen y ceillgwd yn llacio ac wedyn fe allai fod yn haws i chi wneud archwiliad trylwyr.\u00a0 Mae\u2019r rhan fwyaf o lympiau a geir ar y ceilliau yn ddiberygl ond os ceir unrhyw newidiadau mewn maint, siap neu bwysau, yna dylech fynd at eich Meddyg Teulu am archwiliad.<\/li>\n<li>Defnyddiwch gledr eich llaw i gynnal y ceillgwd er mwyn ichi ddod yn gyfarwydd \u00e2 maint a phwysau\u2019r ddwy gaill.<\/li>\n<li>Archwiliwch y ddwy gaill trwy rolio\u2019r naill a\u2019r llall rhwng eich bysedd a\u2019ch bawd.\u00a0 Teimlwch, yn ofalus, er mwyn gweld a oes lympiau neu chwyddiadau yno neu a yw\u2019r ffyrfder wedi newid o gwbl.<\/li>\n<li>Mae gan y ceilliau epididymis ar eu pen uchaf, sy\u2019n mynd \u00e2 sberm i\u2019r pidyn.\u00a0 Peidiwch \u00e2 chynhyrfu os byddwch chi\u2019n teimlo hyn &#8211; mae\u2019n iawn, does dim byd o\u2019i le.<\/li>\n<li>Os byddwch chi\u2019n archwilio eich hun yn rheolaidd fe ddowch yn fwy ymwybodol o deimlad a maint arferol eich ceilliau er mwyn ichi sylwi mewn da bryd ar unrhyw beth na ddylai fod yno.\u00a0 Os gwelwch chi rywbeth anarferol, cofiwch fynd i weld eich Meddyg Teulu cyn gynted ag y gallwch.<\/li>\n<\/ul>\n<p><strong>\u00a0<\/strong><strong>Cysylltiadau Buddiol<\/strong><\/p>\n<p><a href=\"https:\/\/www.macmillan.org.uk\/\"><u>www.macmillan.org.uk <\/u><\/a>\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0 0808 808 2020 (9am-9pm o ddydd Llun i ddydd Gwener)<\/p>\n<p><a href=\"mailto:youthline@macmillan.org.uk\">youthline@macmillan.org.uk<\/a>\u00a0\u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 \u00a0 0800 808 0800 (9am-9pm o ddydd Llun i ddydd Gwener)<\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/www.nhsdirect.nhs.uk\/\">www.nhsdirect.nhs.uk<\/a>\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0 0845 46 47<\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/www.samaritans.org.uk\/\">www.samaritans.org.uk<\/a>\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0 08457 90 90 90<\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/www.teencancer.org\/\">www.teencancer.org<\/a>\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0 0207 387 1000<\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/www.cancerbacup.org.uk\/\">www.cancerbacup.org.uk<\/a>\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0 0808 800 1234 (9am-8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener)<\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/www.mariecurie.org.uk\/\">www.mariecurie.org.uk<\/a>\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0 0800 716 146<\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/www.childline.org.uk\/\">www.childline.org.uk<\/a>\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0 0800 1111<\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/www.crusebereavementcare.org.uk\/\">www.crusebereavementcare.org.uk<\/a>\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0 0844 477 9400(Llinell Gymorth o Ddydd i Ddydd)<\/p>\n<p>0808 808 1677(Llinell Gymorth i Bobl Ifanc)<\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/www.clicsargent.org.uk\/\">www.clicsargent.org.uk<\/a>\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0 0800 197 00689 (9am-5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener)<\/p>\n<p><a href=\"http:\/\/www.click4tic.org.uk\/Home\">www.click4tic.org.uk\/Home<\/a>\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0\u00a0 TIC (Gwybodaeth am Ganser i\u2019r Glasoed)<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Beth yw\u2019r Mis Ymwybyddiaeth o Ganser ymysg Dynion gan Everyman? Yn \u00f4l arolwg a gynhaliwyd gan Everyman yn 2006 dim ond 28% o ddynion sy\u2019n archwilio eu ceilliau\u2019n rheolaidd er&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":5,"featured_media":6642,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[9,3],"tags":[],"class_list":["post-7019","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-pethau-i-wneud","category-yn-ymddangos"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7019","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/5"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7019"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7019\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":7020,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7019\/revisions\/7020"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6642"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7019"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7019"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7019"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}