{"id":7295,"date":"2018-10-11T15:11:25","date_gmt":"2018-10-11T15:11:25","guid":{"rendered":"http:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/?p=7295"},"modified":"2018-10-11T15:17:04","modified_gmt":"2018-10-11T15:17:04","slug":"beth-yw-iechyd-meddwl-miss-writer-yn-ysgrifennu","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/beth-yw-iechyd-meddwl-miss-writer-yn-ysgrifennu\/","title":{"rendered":"Beth yw Iechyd Meddwl? MissWriter yn ysgrifennu"},"content":{"rendered":"<p>Mae llawer ohonom yn dioddef problemau iechyd meddwl ond ddim wir yn deall ei ystyr. Fel oedolion ifanc, rydym yn aml yn gofyn beth yw iechyd meddwl a sut mae\u2019n effeithio arnom? Beth ydy hwn sy\u2019n amharu ar ein ffrindiau a&#8217;n teuluoedd a ddim yn caniat\u00e1u iddynt ofyn am gymorth? \u00a0Sut mae\u2019n gallu rheoli ein meddyliau; beth ydyn ni\u2019n ei wneud, ei ddweud ac yn ei feddwl? \u00a0A beth gellid ei wneud i helpu neu ei atal.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Iechyd meddwl yw lles emosiynol a seicolegol unigolyn. \u00a0Mae\u2019n effeithio ar sut ydyn ni\u2019n teimlo ac yn ymddwyn tuag at rywbeth a pha un a ydyn ni\u2019n gallu gwneud y penderfyniadau cywir dros ein hunain.\u00a0 \u00a0Mae hefyd yn pennu sut ydyn ni\u2019n gallu ymdopi gyda\u2019r amgylchoedd a sut ydyn ni\u2019n delio gyda straen.\u00a0 \u00a0Mae pobl yn aml yn cael trafferth gyda hyn ac yn methu mynegi eu teimladau.\u00a0 \u00a0Gall problemau iechyd meddwl arwain at effaith andwyol neu niweidiol ar fywyd rhywun gan amharu arnynt. Gall wneud iddynt deimlo\u2019n ddiwerth neu\u2019n druenus \u2013 hyd yn oed yn teimlo\u2019n isel neu dan bwysau heb reswm arbennig.\u00a0 \u00a0Byddai pethau bach yn ystod bywyd bob dydd yn teimlo\u2019n faich; fel pe bai pwysau\u2019r byd ar eu hysgwyddau.\u00a0 \u00a0Y teimlad cyson fel pe bai\u2019r byd yn cynllwynio yn eich erbyn chi. \u00a0Byddai diffyg hunan-barch yn dilyn hyn yn y pen draw gan effeithio arnynt ym mhob agwedd o\u2019u bywyd. Gall y rhestr fynd ymlaen ac yn anffodus ni fyddai\u2019n cynnwys unrhyw deimladau buddiol na ffafriol.\u00a0 \u00a0Mae\u2019r ffactorau sy\u2019n cyfrannu at broblemau iechyd meddwl yn cynnwys:<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&#8211; Ffactorau biolegol \u2013 cemeg yr ymennydd neu enynnau<\/p>\n<p>&#8211; Hanes teulu o broblemau iechyd meddwl<\/p>\n<p>&#8211; Cam-drin neu drawma<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Mae amgylchiadau o\u2019r fath yn anffodus yn gyffredin ymhlith cenhedlaeth iau&#8217;r gymdeithas heddiw.\u00a0 \u00a0Pethau nad oes gennym reolaeth drostynt.\u00a0 \u00a0Pethau nad ydym yn cael ein beio amdanynt.\u00a0 \u00a0Fodd bynnag, mae gennym y gallu oddi mewn i symud ymlaen \u00e2 chroesawu\u2019r dyfodol.\u00a0 \u00a0Mae cymorth a chyngor proffesiynol ar gael a bob amser yn cael ei argymell i unrhyw un sydd wedi bod trwy gymaint.\u00a0 \u00a0Yn ogystal, mae cadw mewn cysylltiad gyda ffrindiau a theulu bob amser yn fuddiol ac yn gysur i chi \u2013 gallu rhannu ac agor allan wrth rywun rydych yn ymddiried ynddo yn gwneud i chi deimlo llawer gwell ac yn helpu i symud ymlaen.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Ar unrhyw bwynt yn eich bywyd, efallai y byddwch wedi dod ar draws sefyllfa lle rydych yn teimlo\u2019n nerfus neu\u2019n bryderus am ymdrech neu brofiad newydd rydych ar fin wynebu. \u00a0Teimlad o ansicrwydd \u2013 y \u2018beth os\u2019 yn dod i\u2019r meddwl a setlo i lawr gyda theimlad o bryder.<\/p>\n<p>Efallai eich bod yn adnabod rhywun sydd wedi bod drwy rywbeth tebyg, rhywun agos. \u00a0Rhywun rydych yn gofalu amdanynt sy\u2019n methu dweud wrthych sut maent yn teimlo. \u00a0Dyma lle rydych angen camu ymlaen a gallu eu deall a\u2019u helpu drwy eu hamser caled.\u00a0 \u00a0Cadw\u2019n positif. Cael hwyl a dangos i\u2019ch ffrindiau bod bywyd yn mynd ymlaen.\u00a0 \u00a0Bod bywyd bob amser yn darparu cyfleoedd sy&#8217;n caniatau i chi fod yn hapus ac i fyw yn iach.\u00a0 \u00a0Yna bydd hyn yn ysgogi eich ffrind i feddwl yn optimistaidd ac yn gwella eu sefydlogrwydd a hunan-barch.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Y dyddiau hyn, rydym yn gweld oedolion a phlant yn treulio mwy o amser ar eu ffonau ac ar gyfryngau cymdeithasol yn hytrach na gyda\u2019i gilydd.\u00a0 \u00a0Mae\u2019r hyn sy\u2019n mynd ymlaen ar gyfryngau cymdeithasol yn poeni mwy arnom na\u2019r hyn sy\u2019n digwydd mewn gwirionedd.\u00a0 \u00a0Rydym yn cymryd y synnwyr diogelwch ffug hwn o fywyd ar-lein wedi\u2019i drefnu\u2019n berffaith yn llawer rhy o ddifrif.\u00a0 \u00a0Yn arbennig pan mae\u2019n dod i fynegi ein hunain neu fynegi barn efallai.\u00a0 \u00a0Beth am fynd allan a mynegi\u2019r farn honno\u2019n agored? Beth sy\u2019n eich rhwystro chi? \u00a0Y gwir yw nad oes unrhyw beth yn eich rhwystro chi. \u00a0Does dim byd yn eich rhwystro chi. \u00a0Ond mae gennych ofn. Wnewch chi ddim cyfaddef ond mae&#8217;n wir. \u00a0Ofn beth fydd y byd yn ei feddwl, beth fydd y sawl nesaf atoch yn feddwl ohonoch chi.\u00a0 \u00a0Bydd y teimlad hwn eich bod yn cael eich beirniadu rydych yn meddwl fydd rhywsut yn gwneud i chi edrych yn wan neu hyn yn oed yn llai o berson da, yn eich atal ac yn gwneud i chi feddwl ddwywaith.\u00a0 \u00a0Ond sut fydd bywyd yn edrych os ydych yn meddwl ddwywaith bob tro? Os nad ydych yn cymryd y cyfleoedd a roddir i chi? Byddwch yn byw gyda\u2019r edifeirwch nad ydych wedi cyflawni rhywbeth cwbl anhygoel a chymryd y cyfle tra roedd ar gael i chi.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>Mae cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rhan enfawr yn ein bywydau.\u00a0 \u00a0Mae\u2019n effeithio ar sut rydym yn meddwl ac yn ymddwyn tuag at rywbeth.\u00a0 \u00a0Oherwydd y tueddiad parhaus hwn na allwn fyw hebddo, nid ydym mewn gwirionedd yn sylweddoli ei effeithiau a\u2019r effaith a gaiff arnom a\u2019n harferion beunyddiol.\u00a0 \u00a0Mae llawer ohonom yn treulio mwy na 4 awr ar ein ffonau a ddim yn ymwybodol o&#8217;r pethau sy&#8217;n digwydd o&#8217;n hamgylch.\u00a0 \u00a0Rydym yn colli allan ar amrywiol weithgareddau, er mwyn gallu mynd yn \u00f4l ar ein ffonau a gwirio ein negeseuon.\u00a0 \u00a0Weithiau, nid ydym yn cael digon o gwsg oherwydd hyn &#8211; colli cwsg sy\u2019n cael effaith negyddol arnom a gall arwain at broblemau iechyd meddwl difrifol.\u00a0 \u00a0Bydd teimlo\u2019n flinedig neu wedi yml\u00e2dd yn arwain at fethu gweithio&#8217;n iawn neu&#8217;n iach a bydd yn gwneud i chi deimlo&#8217;n ddigalon. Mae digon o gwsg yn ffactor pwysig i leihau\u2019r risg o broblemau iechyd meddwl mawr. \u00a0Drwy gysgu, mae\u2019r corff yn gallu ymlacio ac adennill ei gryfder.\u00a0 \u00a0Mae hefyd yn fuddiol i\u2019r galon a\u2019r meddwl.\u00a0 \u00a0Mae astudiaethau\u2019n dangos bod myfyrwyr coleg nad ydynt yn cael digon o gwsg yn derbyn graddau llawer gwaeth na\u2019r rhai sy\u2019n cael digon o gwsg.\u00a0 \u00a0Maent hefyd yn awgrymu sut y gall y diffyg cwsg rheolaidd effeithio ar sgiliau a gallu dysgu.\u00a0 \u00a0Dylem i gyd gael digon o gwsg fel y gallwn gynnal ein hunain a chael bywyd cytbwys iach. \u00a0Gall cwsg hefyd leihau lefelau straen sy\u2019n debygol iawn i unrhyw fyfyrwyr wneud. Yn ystod eich amser yn y coleg, rydych yn debygol o boeni a ydych yn mynd i lwyddo yn y cwrs ai peidio, ond ni ddylai hyn effeithio ar eich cwsg! Felly gwnewch yn si\u0175r eich bod yn mynd i\u2019r gwely\u2019n gynnar.\u00a0 \u00a0Byddwch yn teimlo\u2019n llawer gwell ac yn awtomatig byddwch yn dechrau ymlacio ac yn gweld gwahaniaeth yn y canlyniadau.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Mae llawer ohonom yn dioddef problemau iechyd meddwl ond ddim wir yn deall ei ystyr. Fel oedolion ifanc, rydym yn aml yn gofyn beth yw iechyd meddwl a sut mae\u2019n&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":11,"featured_media":7286,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[22,23],"tags":[],"class_list":["post-7295","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-cymorth","category-iechyd"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7295","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/11"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7295"}],"version-history":[{"count":3,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7295\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":7298,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7295\/revisions\/7298"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/7286"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7295"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7295"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7295"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}