{"id":7311,"date":"2018-10-19T08:30:22","date_gmt":"2018-10-19T08:30:22","guid":{"rendered":"http:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/?p=7311"},"modified":"2018-10-19T08:31:51","modified_gmt":"2018-10-19T08:31:51","slug":"meddyliwch-cyn-llyncu-peint-ar-eich-talcen","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/meddyliwch-cyn-llyncu-peint-ar-eich-talcen\/","title":{"rendered":"Meddyliwch cyn llyncu peint ar eich talcen&#8230;"},"content":{"rendered":"<p>Dros y gaeaf y llynedd, lansiom brosiect hirdymor i annog pobl i yfed yn gyfrifol yng nghanol y dref.<\/p>\n<p>Rydym wedi gweithio \u00e2 Sefydliad Iechyd Cyhoeddus ym Mhrifysgol John Moores yn Lerpwl i werthuso&#8217;r data gan bobl y buom yn eu harolygu yng nghanol y dref, a rydym wedi bod yn gweithio ochr yn ochr \u00e2 nifer o bartneriaid i wneud llawer o waith pwysig.<\/p>\n<p>Yn \u00f4l y canlyniadau yr ydym wedi&#8217;u casglu hyd yma ar gyfer y prosiect Yfed Llai, Mwynhau Mwy, mae\u2019n ymddangos bod yr ymgyrch wedi dechrau\u2019n wych.<\/p>\n<p>Mae&#8217;r ymchwil yr ydym wedi&#8217;i gasglu yn awgrymu bod gostyngiad wedi bod yng ngwerthiant alcohol i bobl sydd wedi meddwi yn safleoedd trwyddedig Wrecsam &#8211; gan gynnwys tafarndai a chlybiau, ers i\u2019r ymgyrch ddechrau, yn ogystal \u00e2 hynny, mae\u2019n ymddangos bod ymwybyddiaeth pobl ynghylch cyfreithiau sy\u2019n ymwneud \u00e2 gwerthu alcohol i bobl sydd wedi meddwi wedi gwella.<strong><em>\u00a0<\/em><\/strong><\/p>\n<p>Cyflwynwyd yr ymgyrch am y tro cyntaf yn Wrecsam ym mis Tachwedd y llynedd, a&#8217;r nod yw codi ymwybyddiaeth am y gyfraith yn ymwneud \u00e2 gwerthu alcohol i bobl sydd wedi meddwi a pherswadio pobl i beidio ag yfed cyn mynd am noson allan i Wrecsam.<\/p>\n<p>Prif amcanion Yfed Llai, Mwynhau Mwy yw:<\/p>\n<ul>\n<li>Codi ymwybyddiaeth am y gyfraith yn ymwneud \u00e2 gwerthu a phrynu alcohol i bobl sydd wedi meddwi<\/li>\n<li>Cefnogi staff bar i wrthod gwerthu alcohol i bobl sydd wedi meddwi<\/li>\n<li>Perswadio pobl i beidio ag yfed gormod gartref cyn mynd am noson allan i Wrecsam<\/li>\n<li>Hyrwyddo yfed yn gyfrifol yn Wrecsam<\/li>\n<\/ul>\n<p>Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: \u201cMae\u2019r ymgyrch Yfed Llai Mwynhau Mwy yn annog pobl i gyfyngu ar, a meddwl am faint y maent yn ei yfed ar noson allan, a allai, yn ei dro, eu rhwystro rhag mynd i helynt yn nes ymlaen yn y noson.<\/p>\n<p>\u201cMae\u2019r ymgyrch wedi cael effaith gadarnhaol ar economi\u2019r nos yn Wrecsam, a byddai&#8217;n wych gweld sut y gallwn ni ychwanegu at y llwyddiannau hyn yn arwain at y Nadolig ac yn ystod digwyddiadau allweddol dros y flwyddyn.&#8221;<\/p>\n<p>Fel rhan o\u2019r ymgyrch, rydym wedi ymuno \u00e2 Heddlu Gogledd Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), y Bwrdd Cynllunio Ardal, Prifysgol Glynd\u0175r a Choleg Cambria i ddarparu:<\/p>\n<ul>\n<li>Sesiwn hyfforddi i bob un o\u2019r 26 safle trwyddedig a sesiwn hyfforddi arall i\u2019r 26 o brif swyddogion diogelwch drws<\/li>\n<li>2 sesiwn hyfforddi gyda chapteiniaid chwaraeon a chlybiau cymdeithasol\/cymdeithasau&#8217;r Brifysgol.<\/li>\n<li>Ymwelodd yr heddlu a chydlynydd y prosiect \u00e2 phob un o\u2019r 26 safle trwyddedig, darparwyd posteri wedi\u2019u fframio iddynt a thrafodwyd eu dyletswyddau ynghylch y gyfraith yn ymwneud \u00e2 gwerthu alcohol i bobl sydd wedi meddwi.<\/li>\n<li>Arolygon i bobl ar noson allan yn Wrecsam i fesur eu hymwybyddiaeth ynghylch y gyfraith<\/li>\n<li>Defnyddio\u2019r cyfryngau cymdeithasol ac erthyglau newyddion i godi ymwybyddiaeth pobl ynghylch y peryglon o fod yn ddiamddiffyn o ganlyniad i yfed gormod, yn ogystal ag atgoffa pobl am y cyfreithiau yn ymwneud \u00e2 phrynu diodydd i ffrindiau sydd wedi meddwi.<\/li>\n<\/ul>\n<p>Mae\u2019r ymgyrch hwn yn seiliedig ar raglen a gafodd ei chyflwyno am y tro cyntaf yn Sweden, ac mae&#8217;r dull yn cyfuno gweithio mewn partneriaeth, ennyn cefnogaeth y gymuned, hyfforddiant a gorfodi&#8217;r gyfraith.<\/p>\n<p>Meddai Ailson Watkin, cydlynydd y prosiect \u201cMae\u2019r prosiect, hyd yma, wedi bod yn llwyddiannus, ond rydym yn ymwybodol bod llawer mwy o waith i\u2019w wneud. Bydd Yfed Llai Mwynhau Mwy yn parhau dros y cyfnod sy\u2019n arwain at y Nadolig, a byddwn yn canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth ac ychwanegu at lwyddiannau&#8217;r llynedd.<\/p>\n<p>\u201cEin nod yw parhau i wneud Wrecsam yn lle diogel i fynd am noson allan, a gwneud pobl yn ymwybodol o beryglon yfed gormod sy&#8217;n eu rhoi mewn sefyllfa ddiamddiffyn.\u201d<\/p>\n<p>Cyhoeddwyd adroddiad gwerthuso llawn o Gynhadledd Alcohol Gogledd Cymru heddiw, ac mae ar gael i\u2019w weld yma (ychwanegu dolen i\u2019r wefan)<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Dros y gaeaf y llynedd, lansiom brosiect hirdymor i annog pobl i yfed yn gyfrifol yng nghanol y dref. Rydym wedi gweithio \u00e2 Sefydliad Iechyd Cyhoeddus ym Mhrifysgol John Moores&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":11,"featured_media":7312,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[23,27,6],"tags":[],"class_list":["post-7311","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-iechyd","category-lleol","category-pobl"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7311","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/11"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7311"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7311\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":7314,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7311\/revisions\/7314"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/7312"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7311"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7311"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7311"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}