{"id":7855,"date":"2021-11-30T12:08:29","date_gmt":"2021-11-30T12:08:29","guid":{"rendered":"http:\/\/youngwrexham.co.uk\/cy\/?p=7855"},"modified":"2021-11-30T12:09:22","modified_gmt":"2021-11-30T12:09:22","slug":"prepared-yng-nghymru","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/prepared-yng-nghymru\/","title":{"rendered":"PrEPARED yng Nghymru"},"content":{"rendered":"\n<p><strong>Pre-Exposure\u00a0Prophylaxis\u00a0Aiming for\u00a0Reduced infection and\u00a0Early\u00a0Diagnosis of HIV in Wales<\/strong><\/p>\n\n\n\n<p><a href=\"https:\/\/www.cymruchwareus.org\/wales-prep-project.html\">PrEPARED yng Nghymru | Prosiect PrEP Cymru (cymruchwareus.org)<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Beth ydi Pre-Exposure Prophylaxis (PrEP)?<\/h2>\n\n\n\n<p>Strategaeth newydd i atal&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.cymruchwareus.org\/about-hiv.html\">HIV<\/a>&nbsp;yw Pre-Exposure Prophylaxis, neu PrEP, lle bydd pobl sy\u2019n HIV-negyddol yn defnyddio cyffuriau \u00f4l-wrthfiraol HIV a ddefnyddir fel arfer i drin heintiad HIV, i leihau eu risg o gael eu heintio ag HIV.<\/p>\n\n\n\n<p>Ers Haf 2018 mae\u2019r GIG Cymru wedi bod yn rhadnodi\u2019r paratoadau cyffredinol am y meddyginiaeth sydd yn cael ei defnyddio i creu PrEP (Emtricitabine 200mg a Tenofovir Disproxil 245mg). Mae yna nifer o creadigwyr sydd yn cwrdd a\u2019r safonau\u2019r WHO a\u2019r FDA. \u2018Teva\u2019 yw\u2019r brand cyffredin sydd yn cael ei darparu trwy GIG Cymru.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">A fu yna unrhyw gynnydd mewn trosglwyddiad HIV yng Nghymru?<\/h2>\n\n\n\n<p>Ar gyfartaledd, yn y chwe blynedd ddiwethaf, cafwyd diagnosis blynyddol o oddeutu 153 o achosion newydd o haint HIV. Mae mwyafrif helaeth yr heintiau sy\u2019n cael diagnosis yng Nghymru\u2019n rhai a drosglwyddir yn rhywiol gyda 47.5% o ddiagnosau newydd ers 2011 yn cael eu priodoli i ddynion sy\u2019n cael rhyw \u00e2 dynion (MSM) tra bo 31.6% o heintiau wedi\u2019u cofnodi i fod wedi\u2019u cael drwy gyswllt heterorywiol.<\/p>\n\n\n\n<p>Mae yna gynnydd rheolaidd yn nifer y bobl sy\u2019n byw ag HIV yng Nghymru, yn adlewyrchu\u2019r cynnydd mewn goroesiad a diagnosisau newydd.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Sut mae PrEP yn gweithio?<\/h2>\n\n\n\n<p>Os byddwch yn eich diogelu eich hun \u00e2 PrEP ac yn cael eich amlygu i HIV, bydd PrEP yn atal HIV rhag mynd i mewn i\u2019ch celloedd a dyblygu. Felly dylech ddal i fod yn HIV negyddol. Fodd bynnag, bydd PrEP yn effeithiol dim ond pan fydd yna ddigon o\u2019r sylweddau gweithredol yn eich gwaed cyn i chi gael eich amlygu i HIV.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Ddylwn i ystyried cymryd PrEP?<\/h2>\n\n\n\n<p>Ar gyfer pobl nad oes ganddyn nhw HIV y mae PrEP &#8211; pobl sydd \u00e2 risg mawr o\u2019i gael oherwydd eu hymddygiad rhywiol neu eu hamlygiad potensial i haint HIV, felly os ydych chi\u2019n HIV negyddol, ac ni fyddwch yn defnyddio condomau bob amser, yna gallai PrEP leihau eich risg o gael HIV.<\/p>\n\n\n\n<p>Yr arwyddion y gallech fod \u00e2 risg uwch o HIV, ar wah\u00e2n i ymddygiad, yw eich bod wedi cael haint a drosglwyddir yn rhywiol yn ddiweddar neu eich bod wedi defnyddio \u2018post-exposure prophylaxis\u2019 (PEP).<\/p>\n\n\n\n<p>Mae treialon ymysg dynion fydd yn cael rhyw \u00e2 dynion, merched trawsryweddol, pobl heterorywiol, a defnyddwyr sy\u2019n chwistrellu cyffuriau wedi dangos y gall PrEP leihau\u2019r risg o haint HIV yn eithaf sylweddol \u2013 pan gymerir PrEP yn gyson, ac os defnyddir dulliau rhyw diogel eraill hefyd.<\/p>\n\n\n\n<p>Fodd bynnag, cyn dechrau PrEP, mae\u2019n&nbsp;rhaid&nbsp;i chi fod yn sicr eich bod yn HIV negyddol. Mae prawf HIV-negyddol sydd wedi\u2019i gadarnhau\u2019n hollol angenrheidiol i ddechrau ar PrEP. Hefyd mae angen i bobl sydd ar PrEP gael eu hail-brofi am HIV bob tri mis. Fe gewch brawf HIV yn eich Clinig Iechyd Rhywiol Integredig lleol.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Am ba hyd y bydd angen i mi gymryd PrEP cyn iddo fod yn effeithiol?<\/h2>\n\n\n\n<p>O\u2019i gymryd pob dydd, mae PrEP yn ddiogel ac yn hynod effeithiol i atal haint HIV. Mae PrEP yn cyrraedd lefel amddiffynnol ar gyfer rhyw rhefrol trwy gymryd dos dwbl rhwng 2 a 24 awr cyn rhyw ac yna cymryd un tabled am 24 awr ar \u00f4l, ac eto 48 awr ar \u00f4l y dos cyntaf. Fodd bynnag, os na chymerir bob dydd mae\u2019r effaith amddiffynnol yn llaihau. Ar gyfer rhyw trwy\u2019r wain, mae PrEP yn cyrraedd ei lefel mwyaf amddiffynnol ar \u00f4l tua 7 diwrnod o ddefnydd bob dydd, ac argymhellir bod angen ei gymryd bob dydd i gynnal yr effaith amddiffynnol.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">A allaf i ddefnyddio PrEP ar \u00f4l cael fy amlygu i HIV?<\/h2>\n\n\n\n<p>Mae&nbsp;PrEP&nbsp;i\u2019w ddefnyddio dim ond ar gyfer pobl sydd \u00e2 risg uchel iawn a pharhaus o gael haint HIV ond sydd wedi cael amser i gymryd y cyffur fel ei fod yn cyrraedd ei lefelau amddiffynnol cyn cael ei amlygu i HIV. Gallai&nbsp;\u2018POST-exposure prophylaxis\u2019 (PEP)&nbsp;eich atal rhag datblygu haint HIV os byddwch yn credu eu bod wedi eu hamlygu i\u2019r firws yn ddiweddar. Fodd bynnag, nid yw\u2019n gweithio bob amser. Mae\u2019n rhaid i chi ddechrau\u2019r driniaeth cyn gynted ag sydd bosib wedi i chi gael eich amlygu i HIV, o fewn ychydig oriau yn ddelfrydol ac o fewn 72 awr fan bellaf ar \u00f4l amlygiad posib diweddar i HIV i fod ag unrhyw bosibilrwydd o weithio. Cymerir PEP yn ddyddiol am hyd at 28 diwrnod wedi iddo gael ei ragnodi i rywun sy\u2019n credu eu bod wedi\u2019u hamlygu i HIV.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Ydi PrEP yn fy niogelu i rhag STIs eraill?<\/h2>\n\n\n\n<p>Nid yw PrEP yn atal trosglwyddiad STIs (Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol) eraill \u2013 mae angen i chi ddefnyddio condomau i ddiogelu rhag STIs. Yn gyffredinol bydd cyfranogwyr treialon PrEP a chleientiaid rhaglenni PrEP \u00e2 chyfraddau uwch o STIs yn gyffredinol, ond gan fod y cyfranogwyr a\u2019r cleientiaid hyn \u00e2 thuedd i ymddwyn yn beryglus yn rhywiol, mae\u2019n wir ar y dechrau cyn iddyn nhw gychwyn ar PrEP. Mae\u2019r rhan fwyaf o astudiaethau\u2019n dangos fod dynion sydd \u00e2\u2019r risg mwyaf o ran HIV \u2013 sy\u2019n cynnwys y rheiny sydd eisoes ddim yn defnyddio condomau \u2013 yn fwyaf tebygol o geisio PrEP. Mewn llawer o ddinasoedd lle cynhaliwyd prosiectau arddangos roedd cyfraddau STI yn codi ymhell cyn i PrEP ddod ar gael yn eang.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Beth yw\u2019r broses o gael PrEP gan y GIG yng Nghymru?<\/h2>\n\n\n\n<p>I gael PrEP gan y GIG yng Nghymru mae angen i chi fodloni meini prawf penodol. Yn union fel cael PrEP ar-lein,&nbsp;NI&nbsp;allwch gael PrEP yr un diwrnod ag y byddwch yn mynd i\u2019r clinig i gael eich asesu ar ei gyfer. Fe gewch brofion gwaed i sicrhau fod eich arennau a\u2019ch iau yn gweithio\u2019n normal, gan y gallai\u2019r cyffur effeithio ar hynny. Fe gewch brofion hefyd i sicrhau eich bod yn HIV negyddol gan nad yw cymryd y meddyginiaeth am PrEP ar ei ben ei hun yn ddigonol i drin HIV, felly os ydych chi eisoes ag HIV gallai olygu bod y firws yn datblygu ymwrthedd i gyffuriau a hynny\u2019n ei gwneud yn anodd i chi gael eich trin.<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.cymruchwareus.org\/images\/welsh\/prep-flowchart.jpg\" alt=\"PrEP flowchart\"\/><\/figure>\n\n\n\n<p>Os rhoddir PrEP i chi fe gewch bresgripsiwn o fis y tro cyntaf. Gan dybio bod eich canlyniadau gwaed yn aros yn normal yn adolygiad y clinig ar ddiwedd y mis cyntaf, a\u2019ch bod yn dymuno parhau i ddefnyddio PrEP, fe ragnodir digon am dri mis i chi mewn ymweliadau dilynol. Bob tro yr ewch yno fe gewch brofion gwaed i sicrhau bod eich arennau a\u2019ch iau yn dal i weithio\u2019n iawn. Fe gewch brofion hefyd ar gyfer HIV ac STIs eraill.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Ym mhle yng Nghymru allaf i gael PrEP?<\/h2>\n\n\n\n<p>I gael PrEP bydd angen i chi fynd i un o\u2019r Clinigau Iechyd Rhywiol yng Nghymru \u2013 y rheiny a fydd yn darparu PrEP yw:<\/p>\n\n\n\n<figure class=\"wp-block-image\"><img decoding=\"async\" src=\"https:\/\/www.cymruchwareus.org\/images\/welsh\/PrEP-welsh-health-board-table-26nov2021.png\" alt=\"PrEP Welsh Health Board Table\"\/><\/figure>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Rwy\u2019n byw y tu allan i Gymru \u2013 allaf i gael PrEP mewn clinigau iechyd rhywiol yng Nghymru?<\/h2>\n\n\n\n<p>Bydd angen darparu tystiolaeth o breswyliad yng Nghymru i gael mynediad at y driniaeth gan glinigau yng Nghymru. Fe gynigir monitro pobl sy\u2019n defnyddio PrEP y tu allan i\u2019r GIG (e.e. y rheiny sydd wedi prynu PrEP ar-lein ar eu cyfer eu hunain) waeth ble y maen nhw\u2019n byw.<\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Ym mhle arall allwn i gael PrEP?<\/h2>\n\n\n\n<p>Gellir prynu PrEP yn rhwydd ar-lein a gellir ei fewnforio i\u2019r DU heb dorri unrhyw gyfreithiau. Mae yna nifer o wefannau lle gallwch brynu fersiynau Truvada<sup>\u00ae<\/sup>&nbsp;generig sy\u2019n gryn dipyn yn rhatach. Gellir cael mynediad at y safleoedd hyn drwy&nbsp;<a href=\"https:\/\/www.iwantprepnow.co.uk\/buy-prep-now\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">https:\/\/www.iwantprepnow.co.uk\/buy-prep-now<\/a><\/p>\n\n\n\n<h2 class=\"wp-block-heading\">Mae gwybodaeth bellach ar gael gan:<\/h2>\n\n\n\n<ul class=\"wp-block-list\"><li><a href=\"http:\/\/www.tht.org.uk\/sexual-health\/About-HIV\/Pre-exposure-Prophylaxis\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Terrence Higgins Trust<\/a><\/li><li><a href=\"https:\/\/www.iwantprepnow.co.uk\/\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">I Want PrEP Now<\/a><\/li><li><a href=\"http:\/\/i-base.info\/guides\/testing\/pep-pepse-and-prep\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">i-Base<\/a><\/li><li><a href=\"https:\/\/prepster.info\/wp-content\/uploads\/2020\/05\/PrEP-A6-booklet-2020-Welsh.pdf\" target=\"_blank\" rel=\"noreferrer noopener\">Gwybod am lyfryn PrEP<\/a><\/li><\/ul>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Pre-Exposure\u00a0Prophylaxis\u00a0Aiming for\u00a0Reduced infection and\u00a0Early\u00a0Diagnosis of HIV in Wales PrEPARED yng Nghymru | Prosiect PrEP Cymru (cymruchwareus.org) Beth ydi Pre-Exposure Prophylaxis (PrEP)? Strategaeth newydd i atal&nbsp;HIV&nbsp;yw Pre-Exposure Prophylaxis, neu PrEP, lle&#8230;<\/p>\n","protected":false},"author":21,"featured_media":7853,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"_acf_changed":false,"footnotes":""},"categories":[2,22,23,5,6],"tags":[35,36,37,33],"class_list":["post-7855","post","type-post","status-publish","format-standard","has-post-thumbnail","hentry","category-addysg","category-cymorth","category-iechyd","category-newyddion","category-pobl","tag-preparedinwales","tag-hiv","tag-hivawareness","tag-wales"],"acf":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7855","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/21"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7855"}],"version-history":[{"count":2,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7855\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":7857,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7855\/revisions\/7857"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/7853"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7855"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7855"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/dev.youngwrexham.co.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7855"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}