Cyfranogiad yn Wrecsam
Beth yw Cyfranogi?
Diffiniad o ‘Cyfranogi’
‘Ystyr cyfranogi yw bod gennyf yr hawl i fod yn rhan o wneud penderfyniadau, o gynllunio ac o adolygu unrhyw gam a allai effeithio arnaf i. Cael llais, Cael dewis’
Mae cyfranogi’n broses sy’n sicrhau bod yr holl bobl ifanc o 0 – 25 oed yn cael eu cynnwys yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnynt hwy, ac ar y gymuned a’r gymdeithas y maent yn byw ynddi. Mae cyfranogi’n rhan hanfodol o rymuso pobl ifanc i ddod yn ddinasyddion gweithgar a chyfrifol. Mae ymgysylltu â phrosesau democrataidd ac amrywiaeth o faterion dinasyddiaeth, yn lleol ac yn fyd-eang, yn helpu plant a phobl ifanc i ddatblygu’r hyder a’r sgiliau ar gyfer dysgu, bywyd a gwaith. Mae a wnelo cyfranogi â mwy na chymryd rhan. Mae a wnelo â gwrando, rhannu profiadau a dysgu oddi wrth ein gilydd. Mae’n ddeialog barhaus gyda phlant a phobl ifanc sy’n gwerthfawrogi eu llais ar faterion sy’n bwysig iddynt hwy ac sy’n clywed ac yn ystyried eu barn pan wneir penderfyniadau sy’n effeithio arnynt.
Y Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol
Ceir 7 Safon Cyfranogiad Cenedlaethol. Caiff cyfranogiad yn Wrecsam ei gyflawni yn unol â’r safonau hyn. Mae’r safonau wedi’u nodi er mwyn helpu sefydliadau i ddilyn arfer da ym maes cyfranogi gyda phlant a phobl ifanc mewn prosesau penderfynu. Maent yn ein helpu i sicrhau bod gan blant a phobl ifanc lais mewn materion sy’n effeithio arnynt.
Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib. Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.