Mae Tîm Cyfranogi Gwasanaeth Ieuenctid Wrecsam yn cefnogi Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2018
Cynhelir Diwrnod Rhyngwladol y Merched pob blwyddyn ar 8 Mawrth i ddathlu cyflwyniadau merched o bob cwr o’r byd dros y blynyddoedd. Mae hefyd yn cael ei alw’n Ddiwrnod Hawliau Merched a Heddwch Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig. Mae Diwrnod Rhyngwladol y Merched yn ddiwrnod byd-eang sy’n dathlu cyflwyniadau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol merched ac eleni rydym ni’n cofio 107 o flynyddoedd ers ymgyrch y swffragetiaid.
Mae’r diwrnod hwn yn ymwneud ag undod, dathlu, myfyrio, eirioli a gweithredu.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa bwerus??
I gefnogi Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2018, mae Tîm Cyfranogi Wrecsam eisiau rhoi cyfle i rai merched rhwng 11 ac 20 oed o Wrecsam ‘gysgodi’ rhai o’n merched ysbrydoledig mewn swyddi a lleoliadau amrywiol am y diwrnod. Dyma gyfle gwych a fydd yn ysbrydoli ac yn annog merched ifanc i ystyried gyrfaoedd amrywiol.
Hoffech chi fanteisio ar y cyfle hwn?????
Os oes gennych chi ddiddordeb ac os hoffech chi fwy o wybodaeth cysylltwch â’r Tîm Cyfranogi:
01978 317961
www.internationalwomensday.com #DRhM2018 #PressforProgress