In2CHANGE
Mae In2Change yn brosiect cyffuriau ac alcohol cyfrinachol ac am ddim sy’n gweithio gyda phobl ifanc rhwng 11 ac 25 ar sail wirfoddol.
Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc o amgylch eu problemau cyffuriau ac alcohol gan ganolbwyntio ar beth rydych yn credu fyddai’n eich helpu chi ar hyn o bryd. Gallwn gwrdd â chi yn y siop INFO, gartref, yn yr ysgol/coleg neu yn y gymuned – lle bynnag rydych yn teimlo’n fwyaf cyfforddus. Gallai rhai o’r gwasanaethau rydym yn eu darparu i chi gynnwys:
Gwybodaeth a chyngor ar faterion sy’n ymwneud â defnyddio cyffuriau ac alcohol.
Cynyddu eich gwybodaeth am risgiau sy’n ymwneud â defnyddio cyffuriau ac alcohol.
Cefnogaeth i leihau neu roi’r gorau i ddefnyddio cyffuriau ac alcohol.
Cefnogaeth o ran sut mae cyffuriau ac alcohol yn effeithio ar eich bywyd.
Gall In2Change hefyd gynnig cefnogaeth o ran addysg, tai, perthnasoedd, cyflogaeth neu waith gwirfoddol, a meysydd eraill o’ch bywyd.
Yn In2Change gallwn hefyd gynnig gweithgareddau i ddifyrru a all helpu i dynnu eich meddwl oddi ar anawsterau presennol neu eu defnyddio fel adnodd cymell. Mae enghreifftiau’n cynnwys beicio mynydd, aelodaeth campfa am ddim, marchogaeth, teithiau sinema a cherdded.
Os ydych yn credu gall In2Change eich helpu chi ac os ydych am drefnu apwyntiad neu am holi unrhyw beth, ffoniwch neu anfonwch e-bost atom ar y manylion isod. Os ydych am atgyfeirio eich hun at In2Change neu gael eich atgyfeirio gan brosiect/asiantaeth arall, llenwch y ffurflen atgyfeirio ar ein tudalen. Hoffwn i chi lenwi’r daflen Adnodd Sgrinio am Ddefnydd o Gyffuriau ac Alcohol (DUST) hefyd sy’n edrych ar eich defnydd.
Yn ogystal â’r ffurflenni Atgyfeirio, mae taflenni a phosteri i’w lawrlwytho a fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am ein prosiect a gellir eu harddangos. (FFURFLENNI ATGYFEIRIO, DUST, PRIF BOSTER)
Stryt y Lampint,
Wrecsam
LL11 1AR
01978 295629
Dydd Llun i ddydd Gwener 9.00am tan 5.00pm
Mae In2Change yn cynnig sesiwn galw heibio bob dydd Llun yn INFO rhwng 3pm a 5pm lle gallwch gael gwybodaeth gywir yn ymwneud â defnyddio cyffuriau ac alcohol. (POSTER GALW HEIBIO)