Beth ydyn ni wedi’i wneud hyd yma?
Dyma rywfaint o straeon am sut mae eiriolwyr Ail Lais wedi helpu pobl ifanc. Rydym wedi gwneud y straeon yn anhysbys er mwyn sicrhau y caiff popeth ei gadw’n gyfrinachol.
Helo, mam ifanc ar ddau ydw i. Es i i Ail Lais am gefnogaeth gyda chyfarfodydd gwasanaethau cymdeithasol gan fod fy mhlentyn ar y Gofrestr Amddiffyn Plant. Ar y dechrau, doeddwn i ddim eisiau siarad, ond yn araf, fe es i i gyfarfodydd gan ddechrau siarad drosof i fy hun. Roedd cael eiriolwr yn gwneud i mi deimlo’n llai nerfus oherwydd bod gen i rywun a fyddai’n egluro popeth i mi. Weithiau mae’n anodd deall beth mae pobl yn siarad amdano. Roedd gwybod beth roedd pobl yn siarad amdano a gwybod fy hawliau yn fy helpu i feithrin hyder mewn cyfarfodydd.
Beth ddigwyddodd? Gwnes i’n siŵr fy mod wedi gweithio gyda’r holl wasanaethau y gofynnodd y Gwasanaethau Cymdeithasol i mi weithio gyda nhw, ac oherwydd hyn cafodd fy mhlant eu tynnu oddi ar y Gofrestr Amddiffyn Plant. Fe symudais ac fe gefnogodd fy eiriolwr fi i gael grant bach i’m helpu i gael ychydig o bethau ar gyfer y tŷ.
Roeddwn yn cael fy mwlio yn fy ysgol ac yn teimlo fel nad oedd neb yn gwrando. Es i i’r Siop Wybodaeth i gael gwybodaeth, gan ddod ar draws Gwasanaeth Eiriolaeth Ail Lais. Cwrddais ag eiriolwr a wrandawodd ar yr hyn yr oeddwn yn ei ddweud. Fe wnaethom ni edrych ar opsiynau a phenderfynais yr hoffwn gael cyfarfod gyda fy ysgol. Fe wnaethom ni drefnu pwy roeddwn i am ei weld a’r pwyntiau yr hoffwn siarad amdanynt. Yn y cyfarfod, nid oedd yr eiriolwr yn siarad yn fy lle, dim ond ymhelaethu ar yr hyn roedd gen i i’w ddweud fel bod yr ysgol yn gwrando. Wyddwn i ddim bod gen i hawliau, dywedodd yr eiriolwr wrtha i fod gen i hawl i gael fy nghlywed pan fydd pobl yn gwneud penderfyniadau amdana i.
Beth ddigwyddodd? Cafodd pethau eu rhoi yn eu lle ac roeddwn yn teimlo’n llawer gwell a dan reolaeth o’r hyn oedd yn digwydd. Cefais gyfarfodydd pellach, a pan oeddwn yn gwbl hapus, gofynnais i’r cyfarfodydd stopio. Roeddwn yn gallu hunan-eirioli a doedd dim angen cymorth fy eiriolwr arna i mwyach. Dysgais hefyd fod yna grŵp y gallwn ei fynychu, sy’n fy helpu ar hyn o bryd gyda hunanhyder.
Roeddwn i wedi bod yn ddioddefwr trais yn y cartref ac eisiau mynd yn ôl i’r coleg, ond wyddwn i ddim ble i ddechrau. Atgyfeiriodd fy ymwelydd iechyd fi at Eiriolaeth Ail Lais. Mae gen i blentyn ac yn ansicr a fyddai’n bosibl i mi fynd i’r coleg gan y byddai angen gofal plant arna i. Siaradodd fy eiriolwr gyda mi am arian a’r posibilrwydd o le mewn meithrinfa. Daeth fy eiriolwr gyda mi i ddiwrnod agored mewn coleg, gan roi cefnogaeth i mi wrth i mi wneud cais am gwrs harddwch. Roedd hi’n llawer o help. Daeth yr eiriolwr gyda mi i’r cyfweliad hefyd fel na fyddwn ar fy mhen fy hun, galla i fynd yn eithaf nerfus.
Beth ddigwyddodd? Cefais le ar y cwrs, ond doeddwn i’n methu fforddio’r offer oedd ei angen arna i. Helpodd fy eiriolwr fi i wneud cais am grant ALG a grant Meithrinfa ar gyfer fy mhlentyn. Rwy’n gwneud yn dda iawn yn y coleg ac mae fy mhlentyn yn mwynhau yn y feithrinfa. Dydw i ddim yn siŵr a fyddwn i wedi gwneud hyn heb gymorth gan fy eiriolwr.
Os hoffech ragor o wybodaeth am y testun hwn neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau galwch draw i’r Siop INFO neu cysylltwch â ni ar 01978 295600 / Neges wib. Gadewch neges a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.